Pasport

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd: Pasport (gwahaniaethu)
Amryw o basbortiau a gyhoeddir yn Latfia
E-basbort cyfoes Siapaneaidd
Delwedd:ColombianBiometricPassport1.jpg
Colombaidd a ellir ei ddarllen gan beiriant

Dogfen a gyhoeddir gan lywodraeth cenedlaethol yw pasport, sy'n tystio hunaniaeth a chenedligrwydd person, er mwyn teithio'n ryngwladol. Yn yr ystyr hwn, mae elfennau'r hunaniaeth yn cynnwys enw, dyddiad geni, rhyw, a lleoliad geni. Fel rheol mae cenedligrwydd a dinasyddiaeth person yn unfath.

Nid yw pasport yn ei hun yn rhoi'r hawl i'r deilydd deithio i fewn i wlad arall, na'r hawl i dderbyn amddiffyniad consylaidd na hawliau eraill arbennig tra dramor. Ond, mae fel rheol yn rhoi'r hawl i'r deilydd ddychwelyd i'r wlad lle cyhoeddwyd y basbort. Mae'r hawliau i dderbyn amddiffyniad consylaidd yn tarfu o gytundebau rhyngwladol rhwng gwledydd unigol, a'r hawl i ddychwelyd yn dibynnu ar gyfraith y wlad honno. Nid yw pasport yn cynyrchioli bod gan y deilydd hawliau na chartref yn y wlad lle'i cyhoeddwyd.

Hanes[golygu]

Y pasport Siapaneaidd cyntaf a gyhoeddwyd ym 1866.
Tu mewn i hen basbort gwlad Pŵyl, 1931

Cyfeirir at rhywbeth a wasanaethodd fel pasport yn y Beibl Hebraeg. Yn Nehemiah 2:7-9, sy'n dyddio o adeg Ymerodraeth Persia, tua 450 BC, dywedir i Nehemiah, swyddog a oedd yn gwasanaethu'r Brenin Artaxerxes I o Persia, ofyn i gael teithio i Judea, a rhoddodd y brenin ganiatâd iddo ar ffurf llythyr i'r "llywodraethwyr tu hwnt i'r afon" yn gofyn iddo gael teithio'n ddiogel trwy eu tiroedd.

Yn y Galiffiaeth Islamaidd canoloesol, defnyddwyd ffurf bara'a o pasport, sef derbyneb am drethi a dalwyd. Dim ond dinasyddion a dalodd eu trethi zakah (ar gyfer Mwslemiaid) neu jizya (ar gyfer Dhimmiaid), a oedd yn cael eithio i wahanol ranbarthau yn y Caliphate, felly y dderbyneb bara'a oedd pasport elfennol y teithiwr.[1]

Mae'n debyg i'r gair "pasport" darddu o'r borth mewn muriau dinasoedd canoloesol, a oedd yn rhaid teithio trwyddynyt er mwyn teithio trwy'r diriogaeth.[2][3] Yn Ewrop yn ystod y canoloesoedd, cyhoeddwyd dogfennau ar gyfer teithwyr gan weinyddiaethau lleol, a oedd fel arfer yn cynnwys rhestr o ddinasoedd a threfi lle ganiatâwyd i'r deilydd deithio. Yn gyffredinol, nid oedd angen pasport i deithio i borthladdoedd, gan y cysidrwyd rhain i fod yn bwyntiau masnachu agored, ond roedd teithio i'r tiroedd tu allan i'r porthladd yn galw am basbort.

Caiff Harri V, brenin Lloegr y gredyd am ddyfeisio'r gwir basbort cyntaf, fel modd o helpu ei ddinasyddion i brofi pwy oeddent dramor.[4]

Ymledaenodd y rheilffyrdd ar draws Ewrop yn ystod canol yr 19eg ganrif, gan acosi i system basbort Ewropeaidd yr 19eg ganrif cynnar fethu. Daeth yn anodd arofalu cyfreithiau pasportiau oherwydd cyflymder y trenau a'r nifer o deithwyr a oedd yn croesi'r ffiniau. Yr ymateb gyffredinol oedd i ymlacio anghenion pasportiau.[5] Yn ystod rhan olaf yr 19eg ganrif a'r cyfnod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ar y cyfan, nid oedd angen pasport i deithio drwy Ewrop, a roedd croesi'r ffiniau yn gyharol syml. Felly, ychydig iawn o bobl oedd yn berchen ar basbort. Ond, paraodd yr Ymerodraeth Otoman ac Ymerodraeth Rwsia i ofyn am basbort ar gyfer teithio rhyngwaldol, yn ogystal a system pasport mewnol ar gyfer rheoli teithio o fewn eu ffiniau.

Roedd pasportiau cynnar yn cynnwys disgrifiad o'r deilydd. Dechreuwyd atodi ffotograffau yn ystod degawdau cynnar yr 20fed ganrif, pan dechreuodd ffotograffiaeth ddod yn fwy eang gyffredin.

Yng ngwledydd Ewrop yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd gofyn am basbort am resymau diogelwch (i gadw ysbiwyr allan) ac i reoli allfudiad dinasyddion a oedd â sgiliau defnyddiol er mwyn cadw potensial y gweithlu. Cedwyd y rheolau wedi i'r rhyfel ddod i ben, gan ddod yn ymarfer safonol, ond nid oedd heb ymryson. Bu twristiaid Prydeinig yr 1920au yn cwyno, yn enwedig am y ffortograffau a'r disgrifiadau a oedd wedi eu atodi, gan y credont ei fod yn ddad-ddyneiddio brwnt.[6]

Ym 1920, cynhaliodd Cynghrair y Cenhedloedd gynhadledd ar basbortiau a tocynnau teithio trwodd. Daeth canllawiau pasport a chynllun cyffredinol llyfryn pasport i fod yn dilyn y cynhadled,[7] a dilynwyd gan gynhadloedd ym 1926[8] ac ym 1927.

Cynhaliodd y Cenhedloedd Unedig gynhadledd teithio ym 1963, ond ni sefydlwydd unrhyw ganllawiau pasport fel canlyniad. Daeth safoni pasportiau i fod tua 1980, yn dilyn sefydliad yr International Civil Aviation Organisation (ICAO).

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Daniel Frank (1995). The Jews of Medieval Islam: Community, Society, and Identity. Brill Publishers, tud. 6. ISBN 9004104046
  2. George William Lemon (1783). English etymology; or, A derivative dictionary of the English language, tud. 397URL Dywed y gall pasport ddynodi hawl neu chaniatâd i deithio drwy porth, ond mae gweithiau cynharach yn disgrifio gwarant teithio, sef caniatâd neu drwydded i deithio drwy diroedd y tywysog, a oedd yn cael ei alw'n wreiddiol yn pass par teut.
  3.  James Donald (1867). Chambers's etymological dictionary of the English language. W. and R. Chambers. "passport, pass´pōrt, n. orig. permission to pass out of port or through the gates; a written warrant granting permission to travel."
  4. Dominic Casciani. "Analysis: The first ID cards", BBC, 25 Medi 2008.
  5.  History of Passports. Passport Canada.
  6. Michael Marrus (1985). The Unwanted: European Refugees in the Twentieth Century. Gwasg Prifysgol Rhydychen, tud. 92
  7.  League of Nations 'International' or 'Standard' passport design.
  8.  International Conferences - League of Nations Archives. Center for the Study of Global Change (2002).

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: