Gallia Cisalpina

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map yn dangos lleoliad Gallia Cisalpina

Mae Gallia Cisalpina, yn golygu y "Gâl ar yr ochr yma i'r Alpau" - sef enw'r Rhufeiniaid ar ran o ogledd yr Eidal a oedd yn cynnwys taleithiau presennol Emilia-Romagna, Friuli-Venezia Giulia, Liguria, Lombardi, Piedmont, Trentino-Alto Adige/Südtirol a Veneto). Daeth yn dalaith Rufeinig yn amser y Weriniaeth. Ystyrid yr ardal yn rhan o Gâl gan fod y boblogaeth i raddau helaeth yn Geltiaid.

Enwau eraill ar y dalaith oedd Gallia Citerior (Gâl agosaf), Provincia Ariminum a Gallia Togata (Gâl sy'n gwisgo Toga). Gelwid y rhan rhwng Afon Po a'r Alpau yn Gallia Transpadana. Mutina (Modena heddiw) oedd prifddinas y dalaith. Ffin ddeheuol y dalaith oedd Afon Rubicon, ac i'r de o'r afon roedd talaith Italia ei hun. Pan groesodd Iŵl Cesar yr afon i Italia gyda'i fyddin yn 49CC dechreuodd rhyfel cartref a arweiniodd at ddiwedd y Weriniaeth Rufeinig a sefydlu'r Ymerodraeth Rufeinig.

Tua 43 neu 42 CC, unodd Octavian (yr ymerawdwr Augustus yn ddiweddarach) y dalaith ag Italia. Yr enwocaf o feibion Gallia Cisalpina oedd y bardd Fyrsil.