Afon Rubicon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Afon Rubicon yn yr Eidal

Afon fechan a ddynodai ffin ogleddol Yr Eidal dan yr Ymerodraeth Rufeinig oedd Afon Rubicon (Eidaleg diweddar: Rugon). Roedd yn gorwedd rhwng Gallia Cisalpina, y diriogaeth Geltaidd i'r gogledd, a'r Eidal ei hun.

Mae'r afon yn tarddu ym mryniau yr Apennine ac yn llifo ar gwrs dwyreiniol i aberu ym Môr Adria. Gard y Praetoriwm oedd yr unig filwyr oedd a hawl i fod yn arfog i'r de o Afon Rubicon.

Trwy ei chroesi, ac felly'n mynd yn erbyn cyhoeddiadau Senedd Rhufain, cyhoeddodd Iŵl Cesar ryfel yn erbyn Pompey a'i bleidwyr. Am hynny daeth yr ymadrodd 'croesi'r Rubicon' yn ddihareb am weithred na ellir ei dadwneud.

Ceir cyfeiriadau at Afon Rubicon yng ngwaith yr awduron Clasurol Lucan, Pliny'r Ieuengaf a Strabo.

Ffynhonnell[golygu]

  • J. Lempriere, A Classical Dictionary (Llundain, d.d.)