Fyrsil

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Fyrsil - cerflun o'i feddrod yn Napoli Yr oedd Publius Vergilius Maro, Fyrsil neu Fferyll yn Gymraeg, (15 Hydref, 70 CC - 21 Medi, 19 CC) yn fardd yn yr iaith Ladin sydd yn fwyaf adnabyddus am gyfansoddi'r arwrgerdd Yr Aeneid. Mae'r gerdd yn efelychu arwrgerddi'r bardd Groeg cynnar Homeros ac yn adrodd hanes yr arwr Aeneas, a ddihangodd o Gaer Droea i sefydlu dinas a oedd yn rhagflaenydd i Rufain. Comisiynwyd y gerdd gan yr ymerawdwr Cesar Awgwstws er mwyn hyrwyddo'r Ymerodraeth Rufeinig newydd. Mae gweithiau eraill Fyrsil yn cynnwys yr Eclogae a'r Georgicon.

Gwaith Fyrsil[golygu]

Mae nifer o gerddi llai yn cael eu priodoli iddo dan yr enw Appendicis Vergilianae:

Fyrsil yn yr Oesoedd Canol[golygu]

Yn yr Oesoedd Canol ystyrid Fyrsil yn fardd cynddelwrol a osodododd sylfeini'r grefft farddol. Credid yn ogystal ei fod yn fath o ddewin neu broffwyd a ragwelodd ddyfodiad Crist.

Cyfieithiadau[golygu]

Ym 1636 cyfieithwyd testun gan Fyrsil gan yr awdur a'r dramodydd Syr John Denham, o'r enw The Destruction of Troy, An Essay upon the Second Book of Virgils Æneis, ond ni chafodd ei gyhoeddi tan 1656.


Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
She-wolf suckles Romulus and Remus.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato