Ynys Cape Breton

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ynys Cape Breton

Ynys ar arfordir dwyreiniol Canada yw Ynys Cape Breton (Ffrangeg: Île du Cap-Breton, Saesneg: Cape Breton Island). Saif ar ochr ddeheuol Gwlff St Lawrence, ac yn weinyddol, mae'n rhan o dalaith Nova Scotia. Roedd y boblogaeth yn 147,454 yn 2001.

Hanes[golygu]

O ganlyniad i Glirio'r Ucheldiroedd yn yr Alban, amcangyfrifir i 25,000 o siaradwyr Gaeleg gyrraedd Ynys Cape Breton rhwng 1775 a 1850. Ar ddechrau'r 20fed ganrif, roedd tua 100,000 o siaradwyr Gaeleg yno, ond erbyn dechrau'r 21ain ganrif roedd y nifer o dan fil.

Diwylliant[golygu]

Cynrychiolir yr ynys yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant.

Cyfeiriadau[golygu]

Flag-map of Nova Scotia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Nova Scotia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.