Galatiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
"Y Galiad clwyfedig" - copi Rhufeinig o gerflun enwog o ryfelwr Galataidd, o Bergamon (Amgueddfa'r Capitol, Rhufain)
Gweler hefyd Galatia a Galatia (gwahaniaethu).

Yr oedd y Galatiaid yn bobloedd Celtaidd a fudodd o ardal yng nghanolbarth Ewrop, trwy'r Balcanau, i fyw yn Asia Leiaf tua 278 CC. Mae awduron Clasurol yn dweud eu bod nhw wedi'u rhannu'n dri llwyth mawr - y Tolisto(b)agii, y Trocmi a'r Tectosages - a bod y llwythau hynny yn eu tro wedi'u rhannu'n bedwar is-lwyth yr un (tetrarchau). Roedd eu hiaith, Galateg, yn debyg iawn i'r iaith Aleg a siaredid yng Ngâl.

Ymsefydlasant yng ngorllewin canolbarth Anatolia ar ôl cael eu gwahodd yno gan y brenin Nicomedes I o deyrnas Bithynia i'w gynorthwyo yn erbyn y Persiaid. Ymladdasant sawl gwaith yn erbyn brenhinoedd Pergamon; dethlir buddugoliaethau'r Pergamoniaid drsotynt mewn cyfres o gerfluniau enwog sydd wedi goroesi fel copïau Rhufeinig. Yn ddiweddarach daeth eu tiriogaeth yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig, ond dim ond ar ôl brwydr hir i gadw eu hannibyniaeth a barodd o 189 CC pan gollasant frwydr bwysig, hyd at 25 CC pan greodd yr ymerodr Augustus dalaith Galatia.

Ymddengys fod y llythyr enwog at y Galatiaid gan Sant Paul yn annerch cymunedau Cristnogol ifainc mewn rhannau gwledig o Galatia. Ymddengys fod yr iaith Alateg wedi parhau yn y parthau hynny hyd at y 3edd neu'r 4edd ganrif cyn iddi gael ei disodli gan yr iaith Roeg ac ar ôl hynny Tyrceg.

Gweler hefyd[golygu]