Robert Morton Nance
Oddi ar Wicipedia
Ysgolhaig Cernyweg yn enedigol o Gymru oedd Robert Morton Nance (1873 - 1959). Ystyrid ef yn un o'r prif awdurdodau ar yr iaith Gernyweg.
Ganed ef yn ninas Caerdydd i rieni o Gernyw. Ysgrifennodd lawer o lyfrau a phamffledi ar y Gernyweg, gan gynnwys geiriadur Cernyweg safonol. Bu hefyd yn olygydd y cylcghgrawn Old Cornwall, ac yn un o sefydlwyr Gorseth Kernow gyda Henry Jenner.
Cyhoeddiadau [golygu]
- A Glossary of Celtic Words in Cornish Dialect (1923)
- Sailing-ship Models: a selection from European and American collections with introductory text (1924)
- Cornish-English Dictionary (1955)
- The Cledry Plays: drolls of Old Cornwall for village acting and home reading (1956)
- Cornish for All (1961)
- A Guide to Cornish Place-names; with a list of the words contained in them