Ffurf Ysgrifenedig Safonol

Oddi ar Wicipedia

Ffordd o sillafu'r iaith Gernyweg yw'r Ffurf Ysgrifenedig Safonol (Cernyweg: Furv Skrifys Savonek), a grëwyd er mwyn "darparu orgraff dderbyniol, gynhwysol a niwtral i gyrff cyhoeddus a'r system addysg".[1] Roedd hyn yn ganlyniad i broses a gychwynnwyd drwy greu corff cyhoeddus Partneriaeth yr Iaith Gernyweg, a welai angen cytuno ar un dull sillafu safonol er mwyn rhoi terfyn ar anghytundeb y gorffennol ynglŷn â'r orgraff, sicrhau cyllid oddi wrth y llywodraeth a chynyddu defnydd y Gernyweg yng Nghernyw. Daeth y cytundeb i fodolaeth wedi degawdau o drafod ar ba orgraff ddylid defnyddio ar gyfer yr iaith yn sgîl adfywiad yr iaith yn yr 20g.

Cytunwyd ar y ffurf newydd fis Mai 2008 ar ôl dwy flynedd o drafod ac roedd wedi'i dylanwadu gan y systemau sillafau blaenorol. Roedd y bwrdd trafod yn cynnwys aelodau o bob prif gymdeithas iaith Gernyweg: Kesva an Taves Kernewek, Kowethas an Yeth Kernewek, Agan Tavas a Cussel an Tavas Kernuak, ac fe dderbyniodd fewnbwn gan arbenigwyr ac academyddion o Ewrop a'r Unol Daleithiau. Golygai'r cytundeb i'r Gernyweg gael ei derbyn a'i hariannu'n swyddogol, gyda chefnogaeth oddi wrth llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd[2]

Ym Mehefin 2009, pleidleisiodd Gorsedd Cernyw â mwyafrif mawr dros dderbyn y Ffurf Ysgrifenedig Safonol.[3]

Yn 2013 adolygwyd y Ffurf er mwyn dod o hyd i broblemau â'r orgraff. Yn sgil hyn, gwnaethpwyd ambell newid er mwyn ei gwneud yn haws i ddysgwyr ac i leihau'r gwahaniaethau sillafu rhwng y tafodieithoedd.[4]

Orgraff[golygu | golygu cod]

Mae'r Ffurf Ysgrifenedig Safonol yn cydnabod Cernyweg Canol Adfywiedig (CCA), Cernyweg Tuduraidd (CT) a Chernyweg Diweddar Adfywiedig (CDA) fel amrywiadau cyfartal ac yn seilio'i system arnynt. Mae'r Fanyleb wreiddiol yn 2008 yn datgan bod "yr orgraff ar y cyfan yn tueddu at sylfaen Gernyweg Canol, oherwydd y gellir casglu ynganiad cywir yn CDA a CT o edrych ar ffurf CCA mewn llawer o achosion, ond nid y ffordd arall".[5]

Unseiniau[golygu | golygu cod]

Mae llafariaid diacen yn fyr bob tro. Mae llafariaid acennog mewn unseiniau yn hir o flaen cytsain sengl neu ddim cytsain o gwbl, e.e. gwag CCA [gwaːg], CDA [gwæːg] ('gwag'), lo CCA [lɔː], CDA [loː] ('llwy'), ac yn fyr o flaen cystain ddwbl neu glwstwr o gytseiniaid, e.e. ass CCA [as], CDA [æs] ('am'); hons CCA [hɔns], CDA [hɔnz] ('hwnt'). Ceir eithriadau, er enghraifft, mae llafariad hir o flaen st, e.g. lost CCA [lɔːst], CDA [loːst] ('cynffon'), a hefyd o flaen sk a sp yn CCA, e.e. Pask [paːsk] ('Pasg'). Mae llafariaid acennog mewn lluosilliau yn fyr heblaw gan siaradwyr CCA, a all ynganu cytseiniaid yn hir o flaen cysteiniaid sengl a st (a, gan rai, sk a sp), e.e. gwagen RMC [gwa(ː)gɛn], RLC [gwægɐn] ('bwlch').

Llythyren CCA CT & CDA
Ber Hir Ber Hir
a [a] [aː] [æ]1 [æː]
e [ɛ] [ɛː] [ɛ]1 [eː]
eu [œ]2 [øː]3 [ɛ] [eː]
i [i] [iː] [ɪ] [iː]4
o5 [ɔ], [ɤ] [ɔː] [ɔ]1, [ɤ]1 [oː]
oa6 - - - [ɒː]
oo7 - [oː] - [oː], [uː]8
ou [u] [uː] [ʊ]1 [uː]
u [ʏ]9 [yː] [ɪ]10 [iː]10
y11 [ɪ] [ɪː] [ɪ] [iː]

^1 Gellir ei gwanhau i [ɐ] yn ddiacen, a oedd yn [ə] yn y Fanyleb wreiddiol [5] ond yn [ɐ] yn y geiriadur ar-lein diweddaraf.[6]

^2 [ɛ] anghrwn yn ddiacen

^3 Rhoddir [œ] yn y Fanyleb wreiddiol[5] ond ceir [øː] yn y geiriadur ar-lein diweddaraf.[7]

^4 Yngenir fel [əɪ] yn CDA mewn silliau agored acennog, ac felly fe'i hysgrifennir â'r llythyrennau amrywio ei.

^5 Gall gynrychioli [ɔ], y ffurf fer ar o hir [ɔː/oː], neu [ɤ], ffurf fer oo hir [oː/uː]. Pan fydd yn cynrychioli [ɤ], mae Adolygiad 2013 yn awgrymu y gellid ysgrifennu o fel ò er eglurder mewn "geiriaduron a deunydd dysgu".[8]

^6 Defnyddir fel llythyrennau amrywio gan siaradwyr CDA mewn ambell air pan fydd siaradwyr CCA a CT yn defnyddio a hir, sef CCA [aː] a CT [æː]. Ar ôl Adolygiad 2013, ceir yn y geiriau boas ('bod'), broas ('mawr'), doas ('dod'), moas ('mynd') a geiriau sy'n tarddu ohonynt.[8]

^7 Fe'i defnyddir pan fydd Cernyweg Cyffreddin (CC) yn ysgrifennu oe yr un pryd ag y bydd CDA yn defnyddio'r sain [uː]. Felly, nid yw oo yn cyfateb i oe CC bob tro, e.e. FfYS loor, CC loer ('lleuad') [loːr], ond FfYS hwor [ʍɔːr], CC hwoer [ʍoːr] ('chwaer'). Mae hyn oherwydd bod tystiolaeth i'r ail grŵp o eiriau ddatblygu'n wahanol yn ffonolegol i'r grŵp cyntaf ag oe.[8]

^8 Dim ond [uː] yn CDA.

^9 Rhoddir [y] yn y Fanyleb wreiddiol[5] ond ceir [ʏ] yn y geiriadur ar-lein diweddaraf.[7] Wedi'i gwanhau i [ɪ] yn ddiacen.

^10 Mae'n cael ei gwanhau i [ɪʊ] o flaen gh neu yn ddiacen ar ddiwedd gair. Mewn ychydig o eiriau, gall u gynrychlioli [ʊ] yn fer neu [uː] neu [ɪʊ] yn hir yn CT a CDA. Argymell Adolygiad 2013 y gellid sillafu'r rhain fel ù fer ac û hir mewn "geiriaduron a deunydd dysgu".[8]

^11 Gallant gael eu hynganu'n [ɛ, eː] ac felly eu sillafu'n e yn CT a CDA.

Deuseiniaid[golygu | golygu cod]

Llythyren CCA CT CDA
aw [aʊ] [æʊ]1
ay [aɪ] [əɪ], [ɛː]
ei2 - [əɪ]
ew [ɛʊ]
ey [ɛɪ] [əɪ]
iw [iʊ] [ɪʊ]
ow [ɔʊ] [ɔʊ], [uː]3
oy [ɔɪ]4
uw [ʏʊ]5 [ɪʊ]
yw [ɪʊ] [ɛʊ]6

^1 Mae geiriau benthyg sy'n cael eu sillafu ag aw yn gallu cael eu hynganu'n [ɒ(ː)] yn CT a CDA.

^2 Defnyddir fel llythyrennau amrywio yn CDA pan fydd i yn cael ei deuseinoli i [əɪ] mew silliau agored acennog.

^3 Ceir ar ddiwedd sillaf o flaen llafariad sy'n cychwyn sillaf newydd.

^4 Bydd ychydig o unseiniau'n cadw'r ynganiad mwy ceidwadol [ʊɪ] yn CDA, e.e. moy [mʊɪ] ('mwy'), oy [ʊɪ] ('wy').

^5 Rhoddir [yʊ] yn y Fanyleb wreiddiol[5] ond ceir [ʏʊ] yn y geiriadur ar-lein diweddaraf.[9]

^6 Gall ddefnyddio'r llythyrennau amrywio ew yn lle yw er mwn cynrychioli'r ynganiad [ɛʊ].

Cytseiniaid[golygu | golygu cod]

Llythyren CCA CT CDA
b [b]
c [s]
cch [tʃː] [tʃ]
ch [tʃ]
ck1 [kː], [k] [k]
cy2 [sj] [ʃ(j)]
d [d]
dh [ð] [ð], [θ]3 [ð]
f [f] [f], [v]4
ff [fː] [f]
g [ɡ]
gh [x] [h]
ggh [xː] [h]
h [h]
hw [ʍ]
j [ʤ]
k [k]
kk [kː] [k]
ks [ks], [gz]
l [l]
ll [lː] [lʰ], [l] [lʰ]
m [m]
mm [mː] [m] [ᵇm]5
n [n]
nn [nː] [nʰ], [n] [ᵈn]5
p [p]
pp [pː] [p]
r [r] [ɹ] [ɹ],[ɾ]
rr [rː] [ɾʰ], [ɹ] [ɾʰ]
s [s], [z]6
sh [ʃ]
ss [sː], [s] [s]
ssh [ʃː] [ʃ]
t [t]
th [θ]
tt [tː] [t]
tth [θː] [θ]
v [v] [v], [f]3 [v]
w [w]
y [j]
z [z]

^1 Defnyddir mewn geiriau y mae'n sicr mai geiriau benthyg ydynt.

^2 Mewn rhai geiriau benthyg, fel fondacyon RMC [fɔnˈdasjɔn], RLC [fənˈdæʃjɐn] ('sefydliad') o'r Saesneg foundation.

^3 Gall siaradwyr CT ynganu dh yn [θ] a v yn [f] ar ddiwedd gair mewn sillaf ddiacen. Gall siaradwyr CDA beidio ag ynganu'r seiniau hyn o gwbl, ond caiff hyn ei adlewyrchu yn y sillafiad, e.e. CT menedh [ˈmɛnɐθ], CDA mena [ˈmɛnɐ] ('mynydd').

^4 Ceir [v] yn aml ar ddechrau morffem o flaen llafariaid. Nid yw treiglo [f] i [v], sy'n digwydd mewn rhai amrywiadau Cernyweg, yn cael ei gynrychioli yn yr orgraff.

^5 Ceir diffyg rhagffrwydroli mewn rhai geiriau sy'n cynnwys mm a nn yn CDA. Mae'r rhain yn cynnwys geiriau y tybir iddynt ddod i mewn i'r iaith ar ôl i ragffrwydroli ddigwydd, e.e. gramm ('gram'), a geiriau nad oeddynt yn cael eu defnyddio erbyn cyfnod CDA, e.e. gonn ('gwn (i)').

^6 Mae dosbarthiad [s] a [z] yn wahanol ymhob amrywiad ar y Gernyweg. Mae rhai rheolau yn gyffredin i bawb, e.e. bydd s olaf neu s rhwng llafariaid neu gytsain soniarus a llafariad yn cael ei hynganu'n [z]. Gall rheolau eraill berthyn i amrywiadau penodol, e.e. fel arfer, bydd siaradwyr CCA yn ynganu s gychwynnol fel [s] ond bydd CDA yn tueddu i ddefnyddio [z] (heblaw am mewn clystyrau fel sk, sl, sn, sp a st). Nid yw treiglo [s] i [z], sy'n digwydd mewn rhai amrywiadau ar yr iaith, yn cael ei gynrychioli yn yr orgraff.

Llythrennau eraill[golygu | golygu cod]

O bryd i'w gilydd, mae'r gwahanol fersiynau o Gernyweg adfywiedig yn ynganu seiniau'n wahanol. Defnyddia'r Ffurf Ysgrifenedig Safonol nifer o strategaethau i ymdrin â'r gwahaniaethau hyn er mwyn i bawb gael defnyddio'r Ffurf.

Llythrennau rhychwantu[golygu | golygu cod]

Pan fydd sain CCA yn un sain wahanol yn gyson yn CDA, bydd y FfYS yn defnyddio llythrennau rhychwantu (Saesneg: umbrella graphs).[5]

Llythyren CCA CDA
eu [œ], [øː]1 [ɛ], [eː]
gh [x] [h]
oo [oː] [uː]
u [ʏ]2, [yː] [ɪ], [iː]

Llythrennau amrywio[golygu | golygu cod]

Pan nad oes modd defnyddio llythyren rychwantu i sillafu gair, gellir defnyddio llythren amrywio (Saesneg: variant graphs)[5] yn ei lle. Nid yw'r FfYS yn mynnu bod yn rhaid defnyddio llythrennau amrywio CCA yn unig neu CDA yn unig. Er enghraifft, bydd siaradwr CT yn dewis y llythrennau o'r ddwy set sy'n adlewyrchu ei ynganiad ei hun orau.

CCA CDA
Llythyren Ynganiad Llythyren Ynganiad
a [aː] oa [ɒː]1
ew [ɛʊ] ow [ɔʊ]
i [i] ei2 [əı]
mm [mː] bm [ᵇm]3
nn [nː] dn [ᵈn]3
s [s], [z] j [dʒ]
y [ı], [ıː] e [ɛ], [eː]

Llythrennau traddodiadol[golygu | golygu cod]

Y llythrennau traddodiadol (Saesneg: traditional graphs)[5] yw'r drydedd set o lythrennau wahanol. Mae'r llythrennau hyn yn nes at y rhai yr oedd ysgrifenwyr Cernyweg yn eu defnyddio'n draddodiadol, ac felly mae'n well gan rai siaradwyr Cernyweg y rhain heddiw. Er y caiff llythrennau traddodiadol eu derbyn yn llwyr fel ffordd gywir o sillafu a bod croeso i unigolion eu defnyddio, maent yn wahanol i lythrennau amrywio gan nad ydynt yn gyfartal â llythrennau safonol, ac "ni fyddant yn ymddangos mewn gwerslyfrau iaith sylfaenol neu mewn dogfennau swyddogol a gynhyrchir gan gyrff cyhoeddus".[5]

Safonol Traddodiadol
hw wh
i y1
k c2
ks x
kw qw

^1 Diacen ar ddiwedd gair

^2 O flaen a, l, o, r ac u

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. An Outline of the Standard Written Form of Cornish PDF, Cornish Language Partnership
  2. Cornish language makes a comeback, The Daily Telegraph, 21 Mai 2008
  3. Gorsedh Kernow adopts SWF Archifwyd 2010-10-17 yn y Peiriant Wayback., LearnCornish.net, 31 July 2009
  4. SWF Review - Cornish Language Partnership[dolen marw]
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 5.6 5.7 5.8 An Outline of the Standard Written Form of Cornish PDF, Partneriaeth yr Iaith Gernyweg
  6. "Cornish Dictionary "lowen"". Cyrchwyd 28 Awst 2014.
  7. 7.0 7.1 "Cornish Dictionary "eur"". Cyrchwyd 27 Awst 2014.
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 "SWF Review Report". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-03. Cyrchwyd 27 Awst 2014.
  9. "Cornish Dictionary "pluwek"". Cyrchwyd 27 Awst 2014.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]