Sant Piran

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Sant Piran

Nawddsant Cernyw (Kernow) ar y cyd â Petroc yw Sant Piran. Mae'n nawddsant y mwyngoddwyr alcam. Dethlir ei ŵyl mabsant ar 5 Mawrth. Abad oedd Piran, o'r chweched ganrif, o dras Gwyddelig (fel Ciarán - y 'P' Gymraeg yn troi yn 'C' Gwyddeleg).

Mae baner Piran yn groes wen ar gefndir du, gyda'r gwyn yn cynrychioli alcam/tun.

Mae llawysgrif o'r drydedd ganrif ar ddeg yn rhoi i ni 'fuchedd Piran', a ysgrifenwyd yng nghadeirlan Caerwysg. Ond mae hanes am ei fedd yn Saighir (Sir Offally, Iwerddon). Mae G. H. Doble yn credu ei fod yn Gymro oherwydd y capel a fu iddo yng Nghaerdydd.

Yn ôl yr hanes cafodd ei daflu i'r môr gan baganiaid yn Iwerddon ond daeth i'r lan yn Perranzabuloe, Cernyw. A hyn er gwaethaf y maen felin o gympas ei wddf! Y fo fu'n gyfrifol am adfer y grefft o smeltio tun yng Nghernyw am fod cerrig du ar ei aelwyd wedi ymboethi cymaint i ryddhau'r tun gwyn - fel yn ei faner.

Dosbarthwyd ei weddillion rhwng Caerwysg a Pherranzabuloe ond dim ond y blwch creiriau sy wedi oroesi ffyrnigrwydd y diwygwyr Protestaniaid.

Dethlir Gŵyl Piran drwy Gernyw a'r diaspora Cernywaidd. Mae miloedd yn tyrio at groes Piran ymhysg y tywynni ac adferwyd y perfformiad o'i ddrama firagl yn ddiweddar (yn y Gernyweg). Benthycwyd y cennin Pedr fel arwydd yn ddiweddar hefyd.

Cyfeiriadau[golygu]

  • Carter, Eileen. (2001). In the Shadow of St Piran.
  • Doble, G. H. (1965). The Saints of Cornwall. Dean & Chapter of Truro.
  • Ford, David Nash. (2001). Early British Kingoms: St. Piran, Abbot of Lanpiran. Nash Ford Publishing.
  • Loth, J. (1930). 'Quelques victimes de l'hagio-onomastique en Cornwal: saint Peran, saint Keverne, saint Achebran', yn Memoires de la Societe d'Histoire et d'Archaeologie de Bretegne.
  • Plummer, Charles. (1922). Betha Naem nErenn.
  • Tomlin, E.W.F. (1982). In Search of St Piran.