Porth Ia
Oddi ar Wicipedia
Tref glan-y-môr, plwyf a phorthladd yw Porth Ia (Saesneg: St. Ives) wedi ei lleoli ar arfordir y Môr Celtaidd yng ngorllewin Cernyw. Roedd ar un adeg yn dref bysgota, ond wedi'r cwymp yn y diwydiant mae heddiw yn dibynnu ar dwristiaeth. Mae'r dref yn enwog am ei artistiaid, ac ym 1993 agorwyd cangen o Oriel y Tate, Tate St. Ives yng nganol y dref. Yn 2007 cafodd ei henwi fel tref glan-y-môr gorau Prydain ym mhapur newydd y Guardian.