Bodmin
Tref yng Nghernyw yw Bodmin (Cernyweg: Bosvenegh), gyda 12,778 o drigolion (Cyfrifiad 2001). Yn hanesyddol, Bodmin oedd tref sirol Cernyw, nes i Lysoedd y Goron symud i Truro, canolfan weinyddol y sir heddiw. Ar gyrion y dref ceir Gwaun Bodmin.
Credir fod Pedrog, sant cenedlaethol Cernyw, wedi sefydlu clas yma yn y 6ed ganrif. Mae'r gair bod yn gytras â'r gair Cymraeg bod ac yn golygu 'preswylfod, trigfan'; mae'r ail elfen yn yr enw, menegh, yn cyfateb i mynach(od) yn Gymraeg: felly 'Trigfan y mynachod' yw ystyr yr enw.
Cychwynwyd tri wrthryfel Cernywaidd ym Modmin. Yn 1497, arweiniodd Michael An Gof a Thomas Flamank fyddin o Gernywiaid i Blackheath yn Llundain lle cawsant eu trechu gan fyddin y brenin. Yn Awst yn yr un flwyddn, 1497, ceisiodd Perkin Warbeck ddadorseddu Harri VII o Loegr. Yn 1549, cychwynwyd "Gwrthryfel y Llyfr Gweddi" yno gan Gernywiaid Catholig a wrthwynebai fwriad y brenin Protestant Edward VI o Loegr i orfodi llyfr gweddi newydd. Cyrhaeddasant Exeter yn Nyfnaint. Roedd galwad am gael cyfieithiad Cernyweg o'r llyfr gweddi hefyd. Lladdwyd tua 4,000 yn y gwrthryfel hwnnw.