Llanllieni
Cyfesurynnau: 52°13′42″N 2°44′19″W / 52.2282°N 2.7385°W
| Llanllieni | |
| Saesneg: Leominster | |
|
|
|
| Poblogaeth | 11,100 [1] |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SO496591 |
| Awdurdod unedol | Swydd Henffordd |
| Swydd seremonïol | Swydd Henffordd |
| Rhanbarth | |
| Gwlad | Lloegr |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | LEOMINSTER |
| Rhanbarth cod post | HR6 |
| Cod deialu | 01568 |
| Yr Heddlu | |
| Tân | |
| Ambiwlans | |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | West Midlands |
| Senedd y DU | North Herefordshire |
| Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • | |
Mae Llanllieni (Saesneg: Leominster) yn dref hanesyddol yn Swydd Henffordd. Fe'i lleolir hanner ffordd rhwng Henffordd i'r de a Llwydlo i'r gogledd, ar groesffordd ffyrdd yr A49 a'r A44. Mae ganddi boblogaeth o tua 11,000.
Saif y dref mewn dyffryn ar lan yr Afon Llugwy. Am ganrifoedd bu'n ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân gyda llawer o gynnyrch gwlân canolbarth Cymru, o'r 13eg ganrif ymlaen, yn mynd yno i gael ei brosesu. Mae'r wlad o gwmpas yn enwog am ei berllanau afalau seidr. Ceir nifer o dai hanesyddol yn y dref gan gynnwys Eglwys y Priordy, adeilad Normanaidd sy'n dyddio i ddechrau'r 12fed ganrif.
Cynnwys |
Hanes[golygu]
Yn ôl cofnod yng Cronicl yr Eingl-Sacsoniaid, arweiniodd Gruffudd ap Llywelyn, brenin Gwynedd, gyrch ar Lanllieni yn haf 1052 a arweiniodd at Frwydr Llanllieni, rhwng y Cymry a byddin o Saeson a Normaniaid. Cafodd y Cymry fuddugoliaeth ysgubol.
Chwech milltir i'r gogledd-orllewin o'r dref ymladdwyd Brwydr Mortimer's Cross ar 2 Chwefror, 1461, un o'r brwydrau pwysicaf yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Collodd y Lancastriaid y dydd a ffoes Siasbar Tudur a'i nai Harri Tudur yn ôl i Sir Benfro ac i alltudiaeth yn Llydaw.
Gefeilldrefi[golygu]
Cyfeiriadau[golygu]
Gweler hefyd[golygu]
Dolenni allanol[golygu]
- (Saesneg) Gwefan y dref
Trefi
Llanllieni · Rhosan ar Wy
Pentrefi
Clifford · Clodock · Dilwyn · Ewyas Harold · Kentchurch · Longtown · Lower Hergest · Llanddewi Cil Peddeg · Llanveynoe · Symonds Yat · Upper Hergest · Weston under Penyard