Penda

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffenestr liw yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon yn dangos marwolaeth Penda.

Roedd Penda (bu farw 15 Tachwedd, 655 yn frenin teyrnas Eingl-Sacsonaidd Mercia o 626 hyd ei farwolaeth. Yn fab i Pybba, brenin Mercia, roedd yn un o frenhinoedd paganaidd olaf yr Eingl-Sacsoniaid, ac yn nodedig am gyngheirio gyda nifer o frenhinoedd Cymreig i wrthwynebu Northumbria. Ymddengys yn y traddodiadau Cymreig fel Panna ap Pyd.

Ffurfiodd Penda gynhrair gyda brenin Gwynedd, Cadwallon ap Cadfan, i ymosod ar Northumbria yn 633, a lladdwyd Edwin, brenin Northumbria ym Mrwydr Meigen gan roi meddiant ar Northumbria i Cadwallon a Penda. Mae'n debyg mai Cadwallon oedd arweinydd y cynghrair yma, ond pan laddwyd ef y flwyddyn wedyn, parhaodd Penda i ymgyrchu yn erbyn Northumbria, gan ladd Oswallt, brenin Northumbria ym mrwydr Maes Cogwy (Maserfield) naw mlynedd yn ddiweddarach. Sefydlodd ei hun fel y mwyaf grymus o'r brenhinoedd Eingl-Sacsonaidd; gorchfygodd East Anglia a gyrrodd frenin Wessex i alltudiaeth. Yn 655 roedd yn ymgyrchu yn erbyn Brynaich mewn cynghrair ag olynydd Cadwallon fel brenin Gwynedd, Cadafael ap Cynfeddw. Gyda'r gelyn gerllaw, ymadawodd Cadafael a'i fyddin yn y nos, gan ennill iddo'i hun y llysenw "Cadafael Cadomedd". Gorchfygwyd Penda ym Mrwydr Winwaed a'i ladd.

Dilynwyd ef fel brenin rhan ddeheuol Mercia gan ei fab Peada, tra bu rhan ogleddol y deyrnas dan reolaeth Northumbria am gyfnod.

Mae awgrym mewn barddoniaeth Gymraeg ei fod hefyd wedi bod mewn cynghrair a'r brenin Cynddylan, gan fod cyfeiriad ym marwnad Cynddylan at ei barodrwydd i ddod ar alwad "mab Pŷb"; cyfeiriad mae'n ymddangos at Penda, mab Pybba.

Enwyd Llannerch Banna ym Maelor Saesneg ar ei ôl.