Cadafael ap Cynfeddw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Cadafael ap Cynfeddw (teyrnasodd 634c. 655), a adwaenir hefyd fel Cadafael Cadomedd, yn frenin Gwynedd.

Bywgraffiad[golygu]

Pan laddwyd Cadwallon ap Cadfan. brenin Gwynedd, yn 634, cipiwyd y deyrnas gan Cadafael ap Cynfeddw. Yr oedd gan Gadwallon fab, Cadwaladr ap Cadwallon, ond yr oedd yn dal yn blentyn. Mae'n ymddangos nad oedd Cadafael yn aelod o'r teulu brenhinol, a gellir casglu iddo gipio'r orsedd trwy rym.[1]

Gwnaeth gynghrair gyda Mercia ac ymladdodd ochr yn ochr a Penda brenin Mercia yn erbyn Northumbria. Pan ymosododd Penda ar Northumbria yn 655, yr oedd Cadafael a'i fyddin gydag ef. Gorchfygwyd byddin Penda gan Oswy ym Mrwydr Winwaed. Yr oedd Cadafael a'i fyddin wedi troi am adref y noson cynt, ac ni chymerasant ran yn yr ymladd. Mae'n ansicr a oedd Cadafael yn fwriadol yn dymuno osgoi ymladd ynteu nad oedd yn gwybod fod byddin Oswy yn y cyffiniau. Beth bynnag yr eglurhad, enillodd yr enw sarhaus "Cadomedd", hynny yw "gwrthodwr brwydr".[2]

Mae'n debyg na fu Cadafael yn frenin Gwynedd yn hir ar ôl y digwyddiad yma, ond nid oes gwybodaeth beth ddigwyddodd iddo. Rywbryd yn y blynyddoedd nesaf daeth Cadwaladr ap Cadwallon yn frenin.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).
  2. John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).
  3. John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).
O'i flaen:
Cadwallon ap Cadfan
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Cadwaladr ap Cadwallon