Cynddylan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Brenin rhan ddwyreiniol Teyrnas Powys yn y 7fed ganrif oedd Cynddylan, neu Cynddylan ap Cyndrwyn (bu farw tua 655). Cysylltir ef a Pengwern, a chred rhai haneswyr ei fod hefyd yn rheolwr Dogfeiling.

Hanes[golygu]

Mae Cynddylan yn fwyaf adnabyddus o'r gyfres englynion a elwir wrth yr enw Canu Heledd. Credir fod y farddoniaeth yma yn dyddio o tua'r 10fed ganrif. Y person sy'n siarad ynddynt yw Heledd, chwaer Cynddylan. Mae'n galaru fod Cynddylan wedi ei ladd a'i neuadd yn wag:

Stauell gyndylan ys tywyll heno,
heb dan, heb wely.
wylaf wers; tawaf wedy.[1]

Ceir hefyd gerdd o'r enw Marwnad Cynddylan, mewn llawysgrif o'r 17eg ganrif (MS NLW4973). Arferid credu fod y gerdd yma yn dyddio o'r 9fed ganrif, ond mae gwaith diweddar gan ysgolheigion wedi awgrymu ei bod yn hŷn, ac yn deillio o'r 7fed ganrif, ac felly efallai yn gerdd a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl marwolaeth Cynddylan ei hun. Ceir awfrym yn y gerdd yma ei fod mewn cynhhrair a Penda, brenin Mercia, ac mae pennill yng Nghanu Heledd yn awgrymu iddo ymladd ym mrwydr Maes Cogwy pan laddwyd Oswallt, brenin Northumbria.

Cof[golygu]

Mae'r nofelwraig Rhiannon Davies Jones wedi ysgrifennu nofel am hanes Cynddylan, Heledd a Pengwern, o'r enw Eryr Pengwern.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Jenny Rowland Early Welsh Saga Poetry: a study and edition of the englynion (Caergrawnt: D.S. Brewer, 1990)
  • Ifor Williams (gol.) Canu Llywarch Hen: gyda rhagymadrodd a nodiadau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ifor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935).

Dolen allanol[golygu]