Oswallt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffenestr liw yn Eglwys Gaderiol Durham: Y Brenin Oswallt

Brenin Northumbria oedd Oswallt (604 - 5 Awst 642?).

Fe'i lladdwyd ym Mrwydr Maes Cogwy (Sa: Battle of Maserfield) ar 5 Awst 641 neu 642, neu yn ôl yr Annales Cambriae yn 644, yn erbyn Penda, brenin Mercia. Yn ôl pennill yng Nghanu Heledd, roedd Cynddylan ap Cyndrwyn o Bengwern hefyd yn rhan o'r ymladd. Er na ddywedir hynny, mae'n debygol ei fod mewn cynghrair a Penda, gan fod llinell ym Marwnad Cynddylan sy'n awgrymu hyn.

Gorchfygwyd byddin Northumbria, a lladdwyd Oswallt. Y farn gyffredinol yw fod y frwydr rywle gerllaw Croesoswallt.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Peter C. Bartrum (1993) A Welsh classical dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN 0-907158-73-0