Æthelfrith o Northumbria

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Brenin Brynaich a Deifr oedd Æthelfrith (bu farw tua 616). Teyrnasodd ym Mrynaich (Bernicia) o tua 593 hyd tua 616; ef hefyd, o tua 604 ymlaen, oedd y brenin cyntaf o Frynaich i reoli teyrnas Deifr (Deira), i'r de o Frynaich. Gan mai Deifr a Brynaich oedd y ddwy uned sylfaenol yn yr hyn a ddaeth yn Northumbria yn ddiweddarach, ystyrir Æthelfrith yn frenin cyntaf - de facto - teyrnas Northumbria gan haneswyr. Enillodd sawl brwydr yn erbyn Brythoniaid yr Hen Ogledd, a Gwynedd a Phowys, a chafodd fuddugoliaeth bwysig dros Gael Dál Riata. Er iddo gael ei orchyfygu a'i ladd mewn brwydr ac i'w orsedd gael ei chipio gan un o'i elynion, adferwyd ei linach yn y 630au.

Roedd Æthelfrith yn fab i Æthelric ac felly'n ŵyr i Ida, ac ymddangos iddo olynu Hussa fel brenin Brynaich yn 592 neu 593. Mae'n bosibl mai ef oedd arweinydd gwŷr Brynaich ym Mrwydr Catraeth (tua 600) lle cawsant fuddugoliaeth dros wŷr Gododdin, y coffeir eu tranc yn y gerdd arwrol Y Gododdin, gan Aneirin.

Rhwng 613 a 616, ymosododd Æthelfrith ar deyrnas Powys ac enillodd Frwydr Caer; lladdwyd Selyf ap Cynan, brenin Powys yno. Ymsododd ar fynachod clas Brythonig Bangor Is Coed hefyd, a oedd wedi ymgynull i weddïo dros fuddugoliaeth i'r Cymry, yn ôl yr hanesydd Eingl-Sacsonaidd Beda, ac eraill. Dywedir fod 1200 wedi eu lladd gan filwyr Æthelfrith ac mae dim ond 50 a ddihangodd. Ystyrir y frwydr hon fel un dyngedfennol yn hanes Cymru, Lloegr a Phrydain, a wahanodd Brythoniaid Cymru oddi ar eu cymdogion yn yr Hen Ogledd.


Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato