Pengwern

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pengwern oedd llys brenhinoedd hen deyrnas Powys cyn i'r deyrnas gynnar honno golli'r rhan helaeth o'i dir yn y dwyrain i frenhinoedd Mercia.

Mae gan Bengwern le arbennig yn llenyddiaeth Gymraeg oherwydd y gyfres o englynion a elwir 'Canu Heledd', sy'n rhan o 'Canu Llywarch Hen'. Yn yr englynion hynny mae Heledd yn galaru am farwolaeth ei frawd Cynddylan wrth amddiffyn Powys. Mae'r neuadd wedi'i llosgi ac mae Eryr Pengwern yn aros ei gyfle i fwyta cyrff y meirwon.

Mae union leoliad Pengwern yn ansicr, ond cytunir yn gyffredinol ei fod yn ardal Swydd Amwythig heddiw (sir sy'n gyfateb yn fras i diriogaeth yr hen Bowys yn y dwyrain). Mae safle Amwythig yn cael ei awgrymu'n aml ond nid oes tystiolaeth archaeolegol o drigfa yno cyn ei meddianu gan Mercia. Lleoliad arall a gynigir yw bryngaer gref Din Gwrygon (Saesneg: The Wrekin). Roedd y gaer ar diriogaeth y Cornovii, y llwyth Celtaidd y tybir bod Cynddylan yn perthyn iddi.

Yn ôl Gerallt Gymro, yn ei lyfrau Hanes y Daith Trwy Gymru a'r Disgrifiad o Gymru, roedd Pengwern yn un o dri brif lys Cymru yn yr hen amser (ac felly'n un o Dair Talaith Cymru gyda Aberffraw a Dinefwr). Ar ôl cwymp Pengwern symudwyd llys brenhinoedd Powys i Fathrafal, gogledd Powys.

Ceir hen ddywediad tywydd ym Mhowys o hyd am y 'gwynt oer o Bengwern', pan fo gwynt oer a main yn chwythu o'r dwyrain yn y gaeaf.

Mae'r nofelwraig Rhiannon Davies-Jones wedi ysgrifennu nofel gofiadwy am hanes Cynddylan, Heledd a Pengwern, o'r enw Eryr Pengwern.