P. D. James

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
P. D. James
Geni Phyllis Dorothy James
(1920-08-03)

3 Awst 1920 (94 oed)
Rhydychen, Lloegr

Galwedigaeth Nofelydd
Cenedligrwydd Seisnig
Math o lên Nofelau trosedd, cyffrous
Dylanwad Jane Austen, Graham Greene, Ngaio Marsh, Margery Allingham, Dorothy L. Sayers, Evelyn Waugh
Wedi dylanwadu Morag Joss

Awdur nofelau trosedd Seisnig ac Urddolyn oes y Blaid Geidwadol yn Nhŷ'r Cyffredin yw Phyllis Dorothy James, Barwnes James o Holland Park, OBE, FRSA, FRSL (ganed 3 Awst 1920), a adnabyddir yn fwy cyffredin fel P. D. James. Mae'n fwyaf adnabyddus am gyfres o nofelau yn dilyn hanes heddwas a bardd Adam Dalgliesh.[1]

Bywyd a gyrfa[golygu]

Ganed James yn Rhydychen yn ferch i Sidney James, arolygwr treth, ac addysgwyd yn Ysgol Brydeinig Ludlow a Ysgol Uwchradd i Ferched Caergrawnt.[2] Dechreuodd ysgrifennu yn yr 1950au.[3] Enwyd ei nofel gyntaf, Cover Her Face, yn dilyn hanes Adam Dalgliesh o New Scotland Yard, ar ôl athro yn Ysgol Uwchradd Caergrawnt, a cyhoeddwyd ym 1962.[4] Gosodir nifer o nofelau dirgelwch James ar gefndir biwrocraeth Brydeinig, megis y system gyfiawnder troseddol a'r system iechyd, meysydd yr oedd James wedi gweithio ynddynt ers degawdau, gan gychwyn yn yr 1940au pan aeth i weithio mewn gweinyddiaeth ysbytu er mwyn cefnogi ei gŵr, a oedd yn wael, a'u dau plentyn. Dyflwydd wedi cyhoeddiad Cover Her Face, bu farw gŵr James, a cymerodd swydd fel gwas sifil yn adram cyfiawnder troseddol y Swyddfa Gartref. Gweithiodd James yn gwasanaethu'r llywodraeth hyd ei ymddeoliad ym 1979. Mae'n Anglican ac yn Noddwr Lleyg y Cymdeithas Llyfr Gweddi. Mae ei gwaith o 2001, Death in Holy Orders, yn arddangos dealltwriaeth o strwythr a gweithrediad mewnol yr eglwys.[5] Lleolwyd ei nofelau diweddarach mewn rhyw fath o gymdeithasau caedig o ryw fath, megis tŷ cyhoeddi neu siambr bargyfreithiwr, colege ddiwynyddol, ynys neu glinic preifat. Cyhoeddwyd nofel Adam Dalgliesh, The Private Patient, ym mis Awst 2008 yn y Deyrnas Unedig gan Faber & Faber (Tachwedd 2008 yn yr Unol Daleithiau gan Alfred A. Knopf) a cyhoeddwyd Talking About Detective Fiction yn 2009. Mae hefyd wedi ysgrifennu nifer o draethodau a straeon byrion ar gyfer papurau newydd, cylchgronnau ac antholegau yn ystod ei gyrfa. Nid yw rhain wedi eu cyhoeddi mewn casgliad hyd yn hyn.

Fel golygydd gwestai rhaglen Today BBC Radio 4 ym mis Rhagfyr 2009, cyfwelodd James Gyfarwyddwr-cyffredin y BBC, Mark Thompson, a rhoddodd yr argraff ei bod yn feirniadol o'i benderfyniadau. Dywedodd cyflwynydd Today, Evan Davis a oedd wedi cael ei argraffu gan James, y dylai fod yn cyflwyno'r rhaglen yn barhaol nid fel gwestai.[6] Yn 2008, sefydlwyd i Neuadd Enwogion Ysgrifennu Trosedd Rhyngwladol yng Ngwobrau cyntaf Trosedd Cyffrous ITV3.[7]

Ffilm a theledu[golygu]

Addaswyd nifer o nofelau dirgelwch James ar gyfer y teledu gan Anglia Television ar gyfer ITV yn ystod yr 1980au. Darlledwyd y cynhyrchiadau dramor hefyd, gan gynnwys yn yr Unol Daleithiau ar sianel PBS. Chwaraeodd Roy Marsden ran Adam Dalgliesh yn y cynhyrchiadau rhain. Ers hynnu, mae'r BBC hefyd wedi addasu Death in Holy Orders (2003) a The Murder Room (2004) fel dramau unigol, gyda Martin Shaw yn chwarae rhan Dalgliesh.

Ei nofel 1992 The Children of Men oedd sail ffilm 2006 Children of Men, a gyfarwyddwyd gan Alfonso Cuarón a serennodd Clive Owen, Julianne Moore a Michael Caine.[8] Er y bu cryn newidiadau i'r stori o'r llyfr, adroddwyd y bu James yn bles iawn gyda'r addasiad ac yn falch o fod yn gyllystiedig â'r ffilm.[9]

Llyfrau[golygu]

Nofelau[golygu]

Dirgelychau Adam Dalgliesh

  1. Cover Her Face (1962)
  2. A Mind to Murder (1963)
  3. Unnatural Causes (1967)
  4. Shroud for a Nightingale (1971)
  5. The Black Tower (1975)
  6. Death of an Expert Witness (1977)
  7. A Taste for Death (1986)
  8. Devices and Desires (1989)
  9. Original Sin (1994)
  10. A Certain Justice (1997)
  11. Death in Holy Orders (2001)
  12. The Murder Room (2003)
  13. The Lighthouse (2005)
  14. The Private Patient (2008)

Cordelia Gray mysteries

Miscellaneous novels

Argraffiadau omnibws

  • Crimes Time Three (1979), ailargraffwyd yn ddiweddarach fel Three Complete Novels (1988): Cover Her Face, A Mind to Murder, a Shroud for a Nightingale
  • Murder in Triplicate (1980), Unnatural Causes, An Unsuitable Job for a Woman, a The Black Tower
  • Trilogy of Death (1984): Innocent Blood, An Unsuitable Job for a Woman, a The Skull Beneath the Skin
  • A Dalgliesh Trilogy (1989): Shroud for a Nightingale, The Black Tower, a Death of an Expert Witness
  • A Second Dalgliesh Trilogy (1993): A Mind to Murder, A Taste for Death, a Devices and Desires
  • An Adam Dalgliesh Omnibus (2008): A Taste for Death, Devices and Desires, a Original Sin

Ffeithiol[golygu]

Addasiadau teledu a ffilm[golygu]

Detholiad o wobrau ac anrhydeddau[golygu]

Anrhydeddau[golygu]

Doethuriaethau anrhydedd

Cymrodoriaethau anrhydedd

[10]

Gwobrau[golygu]

  • 1971 Gwobr y Nofel Orau, Mystery Writers of America (runner-up): Shroud for a Nightingale
  • 1971 Crime Writers' Association (CWA) Macallan Silver Dagger for Fiction: Shroud for a Nightingale
  • 1973 Gwobr y Nofel Orau, Mystery Writers of America (runner-up): An Unsuitable Job for a Woman
  • 1975 CWA Macallan Silver Dagger for Fiction: The Black Tower
  • 1986 CWA Macallan Silver Dagger for Fiction: A Taste for Death
  • 1986 Gwobr y Nofel Orau, Mystery Writers of America (runner-up): A Taste for Death
  • 1987 CWA Cartier Diamond Dagger (gwobr cyflawniad oes)
  • 1992 Gwobr Deo Gloria: The Children of Men
  • 1999 Gwobr Grandmaster, Mystery Writers of America
  • 2002 Gwobr Lenyddol WH Smith (rhestr fer): Death in Holy Orders
  • 2005 Gwobrau Llyfrau Prydeinig, Crime Llyfr Drosedd Cyffrous y Flwyddyn (rhestr fer): The Murder Room
  • 2007 Gwobr Nofel Drosedd y Flwyddyn Theakston's Old Peculier (rhestr hir): The Lighthouse
  • 2010 Gwobr Nick Clarke am gyfweliad gyda Chyfarwyddwr-cyffredinol y BBC, Mark Thompson, pan oedd yn olygydd gwestaiu ar raglen Today (BBC Radio 4)[11]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Richard B Gidez. P. D. James. Twayne’s English Authors Series, New York: Twayne, 1986.
  • Norma Siebenheller. P. D. James. New York: Ungar, 1981.

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Wikiquote
Mae gan Wikiquote gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i: