Nofel drosedd

Oddi ar Wicipedia
Nofel drosedd
Enghraifft o'r canlynolliterary genre by form, novel genre Edit this on Wikidata
Mathnofel, llenyddiaeth trosedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nofel am dor-cyfraith, fel rheol stori sydd yn dilyn hynt troseddwr neu'r ymdrech i'w ddatgelu a'i ddal, yw nofel drosedd. Hon yw un o brif ffurfiau llenyddol ffuglen drosedd. Mae hyd y nofel yn galluogi i'r awdur lunio plot sy'n fwy cymhleth na'r stori fer drosedd, a rhoi sylw i ddatblygu'r cymeriadau, cryfhau ing a chyffro'r stori, a chadw'r darllenydd ar bigau'r drain. Gall nofel drosedd hefyd gynnwys is-blotiau ac archwilio themâu megis natur ddynol, moesoldeb, a chyfiawnder.

Is-genres[golygu | golygu cod]

Nofel dditectif[golygu | golygu cod]

Ysgrifennwyd y nofelau ditectif cyntaf yn y 19g. Ysgrifennai Arthur Conan Doyle bedair nofel sy'n cynnwys y cymeriad Sherlock Holmes: A Study in Scarlet (1887), The Sign of the Four (1890), The Hound of the Baskervilles (1901–02), a The Valley of Fear (1914–15). Yn hanner cyntaf yr 20g datblygodd dau brif arddull o'r nofel dditectif: hardboiled, megis nofelau Dashiell Hammett a Raymond Chandler, a nofelau dirgelwch "cartrefol" megis cyfresi Miss Marple ac Hercule Poirot gan Agatha Christie.

Roman noir[golygu | golygu cod]

Mae'r roman noir yn pwysleisio bydolwg pesimistaidd, gan gynnwys cymeriadau moesol amwys, awyrgylch tywyll, ac anobaith. Mae enghreifftiau yn cynnwys The Postman Always Rings Twice]] (1934) a Double Indemnity (1936) gan James M. Cain.

Nofel lys[golygu | golygu cod]

Mae'r nofel lys yn dilyn cyfreithwyr, erlynwyr, ac ati wrth iddynt geisio datrys trosedd a chael y troseddwr yn euog. Mae drama yn yr ystafell lys yn elfen gyffredin o'r fath nofel. Un o lenorion toreithiocaf yr is-genre hon yw John Grisham.

Nofel gyffro drosedd[golygu | golygu cod]

Mae'r nofel gyffro drosedd yn llawn pryder a pheryg, ac yn aml yn dilyn ditectif neu arwr tebyg wrth iddo geisio atal troseddwr rhag cyflawni rhagor o droseddau. Mae enghreifftiau yn cynnwys Red Dragon (1981) a The Silence of the Lambs (1988) gan Thomas Harris, a'r gyfres Millennium gan Stieg Larsson.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Tony Hilfer, The Crime Novel: A Deviant Genre (Austin, Texas: University of Texas Press, 1990).
  • Peter Messent (gol.), Criminal Proceedings: The Contemporary American Crime Novel (Chicago: Pluto Press, 1997).
  • Andrew Pepper, The Contemporary American Crime Novel: Race, Ethnicity, Gender, Class (Caeredin: Edinburgh University Press, 2000).