Michael Caine

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Syr Michael Caine
CBE

Caine yng Ngŵyl Ffilm Rhyngwladol Vienna 26 Hydref 2012
Ganwyd Maurice Joseph Micklewhite
Rotherhithe, Bermondsey, Llundain, Lloegr
Cartref Leatherhead, Surrey
Miami Beach, Florida
Cenedl Sais
Gwaith Actor, awdur
Gweithgar 1953–presenol
Priod Patricia Haines
(pr. 1955–1962; ysgarwyd)
Shakira Baksh
(pr. 1973–presenol)
Plant Dominique Caine (b. 1956)
Natasha Caine (b. 1973)
Teulu Stanley Caine
(brawd, bu farw)
Gwefan
michaelcaine.com

Actor ac awdur o Lundain, Lloegr yw Syr Maurice Joseph Micklewhite, Jr. (ganwyd 14 Mawrth 1933), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw llwyfan Michael Caine. Mae'n adnabyddus am ei acen Cocni cryf ac mae wedi serennu mewn 115 neu ragor o ffilmiau. Ystyrir ef fel un o brif actorion Lloegr.[2]

Daeth i'r amlwg yn y 1960au gyda ffilmiau megis: Zulu (1964), The Ipcress File (1965), Alfie (1966) (cynigiwyd ei enw am Academy Award), The Italian Job (1969), a Battle of Britain (1969). Yn y 1970au serenodd yn Get Carter (1971), Sleuth (1972), The Man Who Would Be King (1975), a A Bridge Too Far (1978). Yn y 1980au, fodd bynnag, y cafodd y canmoliaeth mwyaf a hynny gydag Educating Rita (1983) pan dderbyniodd Wobr BAFTA am yr actor gorau mewn rol blaenllaw a'r Golden Globe am yr Actor Gorau. Ym 1986 derbyniodd Wobr Academi am Actor Cynorthwyol am ei rôl yn Hannah and Her Sisters.

Ffilmiau (detholiad)[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Michael Caine". Front Row Interviews. 29 September 2010. BBC Radio 4. http://bbc.co.uk/programmes/b00tyv8c. Adalwyd 18 January 2014. 
  2. "Screening Room Special: Michael Caine"". CNN. Retrieved 22 January 2013


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.