The Dark Knight (ffilm)
![]() |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Christopher Nolan |
| Cynhyrchydd | Christopher Nolan Charles Roven Emma Thomas |
| Serennu | Christian Bale Michael Caine Heath Ledger Maggie Gyllenhaal Morgan Freeman Cillian Murphy |
| Cerddoriaeth | Hans Zimmer James Newton Howard |
| Sinematograffeg | Wally Pfister |
| Golygydd | Lee Smith |
| Cwmni Cynhyrchu | Warner Bros |
| Dyddiad rhyddhau | Awstralia: 17 Gorffennaf 2008 Gogledd America: 18 Gorffennaf 2008 Y Deyrnas Unedig: 25 Gorffennaf 2008 |
| Amser rhedeg | 152 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| Rhagflaenydd | Batman Begins |
| Gwefan swyddogol | |
| Adolygiad BBC Cymru'r Byd | |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm sy'n serennu Christian Bale a Heath Ledger yw The Dark Knight (2008). Seiliwyd y ffilm ar y cymeriad Batman o'r DC Comics, ac mae'n rhan o gyfres Christopher Nolan o ffilmiau. Dyma'r dilyniant i Batman Begins (2005). Adrodda'r ffilm hanes Bruce Wayne/Batman (Bale) wrth iddo ef a'r awdurdodau frwydro yn erbyn bygythiad newydd y Joker (Heath Ledger). Cafodd Nolan yr ysbrydoliaeth ar gyfer y Joker o'r llyfrau comig o'r 1940au a'r gyfres The Long Halloween (1996). Cafodd ei ffilmio'n bennaf yn Chicago, yn ogystal â lleoliadau eraill yn yr Unol Daleithiau, y DU a Hong Kong. Defnyddiodd Nolan gamera IMAX i ffilmio rhai golygfeydd, gan gynnwys ymddangosiad cyntaf y Joker yn y ffilm.
Ar yr 22ain o Ionawr, 2008, ar ôl gorffen ffilmio The Dark Knight, bu farw Ledger o gyfuniad o gyffuriau presgripsiwn. Arweiniodd hyn at sylw mawr yn cael ei roi i'r ffilm gan y wasg a chan y cyhoedd. Yn wreiddiol, bwriad Warner Bros. oedd i greu ymgyrch hyrwyddo ar gyfer The Dark Knight gan ddefnyddio gwefannau a ffilmiau byrion, gan ddefnyddio siotiau sgrîn o Heath Ledger fel y Joker. Ar ôl ei farwolaeth, newidiodd y stiwdio eu hymgyrch hyrwyddo.[1] Rhyddhawyd y ffilm ar yr 16eg o Orffennaf, 2008 yn Awstralia, ar y 18fed o Orffennaf, 2008 yng Ngogledd America ac ar y 24ain o Orffennaf, 2008 yn y DU. Derbyniodd y ffilm adolygiadau cadarnhaol pan gafodd ei rhyddhau a daeth y ffilm i fod yr ail ffilm yn unig i ennill dros $500 miliwn mewn sinemau yng Ngogledd America. Dyma yw'r pedwerydd ffilm yn unig i wneud dros $1 biliwn o ran gwerthiant. Yn sgîl ei llwyddiant beirniadol a masnachol, enillodd y ffilm wobrau amrywiol o'r Ffilm Orau i'r Effeithiau Arbennig Gorau.
Cynnwys |
[golygu] Cymeriadau
- Batman / Bruce Wayne - Christian Bale
- The Joker - Heath Ledger
- Rachel Dawes - Maggie Gyllenhaal
- Harvey Dent / Two Face - Aaron Eckhart
- The Scarecrow / Dr. Jonathan Crane - Cillian Murphy
- Alfred Pennyworth - Michael Caine
- Lucius Fox - Morgan Freeman
- Lt. James Gordon - Gary Oldman
[golygu] Gwobrau ac Enwebiadau
Hyd yn hyn, mae The Dark Knight wedi cael ei enwebu am dros 150 o wobrau ar gyfer sawl agwedd o'r ffilm, (gan gynnwys yn fwyaf penodol perfformiad Heath Ledger), sydd yn fwy nag unrhyw ffilm arall yn 2008. O'r enwebiadau hyn, enillodd y ffilm 92 gwobr.
[golygu] Sefydliadau
| Gwobr | Categori | Enillwyd/Enwebwyd | Canlyniad |
|---|---|---|---|
| Gwobrau'r Academi | |||
| Actor Cefnogol Gorau | Heath Ledger | Enillwyd | |
| Cyfarwyddo Creadigol Gorau | Nathan Crowley, Peter Lando | Enwebwyd | |
| Sinematograffiaeth Gorau | Wally Pfister | Enwebwyd | |
| Golygu Ffilm Gorau | Lee Smith | Enwebwyd | |
| Coluro Gorau | John Caglione, Jr. a Conor O’Sullivan | Enwebwyd | |
| Golygu Seiniol Gorau | Richard King | Enillwyd | |
| Cymysgu Seiniol Gorau | Lora Hirschberg, Gary Rizzo a Ed Novick | Enwebwyd | |
| Effeithiau Gweledol Gorau | Nick Davis, Chris Corbould, Tim Webber a Paul Franklin | Enwebwyd | |
| Cymdeithas Ffilm Americanaidd[2] | 10 Ffilm Uchaf y Flwyddyn | Warner Brothers Studios | Enillwyd |
| Gwobrau BAFTA.[3] | Actor Cefnogol Gorau | Heath Ledger | Enillwyd |
| Cerddoriaeth Gorau | Hans Zimmer / James Newton Howard | Enwebwyd | |
| Sinematograffeg Gorau | Wally Pfister | Enwebwyd | |
| Golygu Gorau | Lee Smith | Enwebwyd | |
| Dylunio Cynhyrchiad Gorau | Nathan Crowley / Peter Lando | Enwebwyd | |
| Gwisgoedd Gorau | Linda Hemming | Enwebwyd | |
| Sain Gorau | Lora Hirschberg / Richard King / Ed Novick / Gary Rizzo | Enwebwyd | |
| Effeithiau Gweledol Gorau | Chris Corbould / Nick Davis / Paul Franklin / Tim Webber | Enwebwyd | |
| Gwallt a Cholur Gorau | Peter Robb-King | Enwebwyd | |
| Cymdeithas Ddarlledu y Beirniaid Ffilm[4] | Y Ffilm Orau | Warner Brothers Studios | Enwebwyd |
| Cyfarwyddwr Gorau | Christopher Nolan | Enwebwyd | |
| Actor Cefnogol Goraur | Heath Ledger | Enillwyd | |
| Cast Actio Gorau | Bale, Caine, Ledger, Eckhart, Oldman, Gyllenhaal, a Freeman | Enwebwyd | |
| Ffilm Gyffro Orau | Warner Brothers Studios | Enillwyd | |
| Cyfansoddwr Gorau | James Newton Howard a Hans Zimmer | Enwebwyd | |
| GwobrauGolden Globes[5] | Actor Cefnogol Gorau mewn Ffilm | Heath Ledger | Enillwyd |
| Gwaobrau'r Grammys[6] | Sgôr Albwm Trac Sain Gorau | James Newton Howard a Hans Zimmer | Enillwyd |
| People's Choice Awards[7] | Hoff Ffilm | Warner Brothers Studios | Enillwyd |
| Hoff Ffilm Gyffro | Warner Brothers Studios | Enillwyd | |
| Hoff Gast | Bale, Ledger, Eckhart, Caine, Oldman, Gyllenhaal, a Freeman | Enillwyd | |
| Hoff Seren Gyffro Gwrywaidd | Christian Bale | Enwebwyd | |
| Hoff Prif Ddyn | Christian Bale | Enwebwyd | |
| Favorite Superhero | Christian Bale as Batman | Won |
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Advertising: Will Marketing Change After Star's Death? The Wall Street Journal. Adalwyd 17-03-2009
- ↑ AFI Top Ten Films 14-12-2008 Adalwyd 17-03-2009
- ↑ Film Winners in 2009 Adalwyd 17-03-2009
- ↑ Critics Choice favors 'Milk,' 'Button' 09-12-2008 Adalwyd 09-12-2008
- ↑ Hollywood Foreign Press Association 2008 Golden Globe Awards Nominations For The Year Ended December 31, 2008 Adalwyd 27-12-2008
- ↑ Annual Grammy Award Nominations Adalwyd 2008-12-27
- ↑ People's Choice Awards Adalwyd 2008-12-27
