Christopher Nolan
Oddi ar Wicipedia
Gwneuthurwr, ysgrifennydd a chynhyrchydd ffilmiau Prydeinig-Americanaidd yw Christopher Jonathan James Nolan (ganwyd 30 Gorffennaf 1970). Mae Nolan yn fab i dad Seisnig a mam Americanaidd, felly mae'n ddinesydd deuol yr Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Mae'n briod â Emma Thomas, ei bartner hir-dymor. Mae ganddynt bedwar o blant ac maent yn byw yn Los Angeles. Yn aml, mae Nolan yn cyd-weithio â'i frawd, yr awdur Jonathan Nolan, a'r actor Christian Bale. Mae Nolan yn fwyaf adnabyddus am gyfarwyddo'r ffilm gyffro seicolegol, Memento ac am gyfarwyddo'r ffilmiau Batman Begins (2005), The Dark Knight a The Dark Knight Rises (2012).