Morgan Freeman

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Morgan Freeman, Hydref 2006

Mae Morgan Porterfield Freeman, Jr. (ganed 1 Mehefin 1937) yn actor, cyfarwyddwr ffilm ac adroddwr Americanaidd. Mae ef wedi ennill Gwobr yr Academi a Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn ac mae'n enwog am ei lais awdurdodol.

Derbyniodd Freeman enwebiadau Oscar am ei berfformiadau yn Street Smarts (1987), Driving Miss Daisy (1989), a The Shawshank Redemption (1996) cyn ennill Gwobr yr Academi am yr Actor Cefnogol Gorau yn 2005 am Million Dollar Baby.

Mae ef wedi serennu mewn ffilmiau mawrion megis Unforgiven (1992), Se7en (1995), Bruce Almighty (2003), Batman Begins (2005), Wanted (2008), a The Dark Knight (2008).