Didcot
Cyfesurynnau: 51°36′22″N 1°14′28″W / 51.606°N 1.241°W
| Didcot | |
Gorsaf drenau Didcot Parkway, gan edrych tua'r gorllewin. |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 22,762 |
|---|---|
| Plwyf | Didcot |
| Swydd | Swydd Rhydychen |
| Rhanbarth | |
| Gwlad | Lloegr |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | Didcot |
| Cod deialu | 01235 |
| Yr Heddlu | |
| Tân | |
| Ambiwlans | |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | De Ddwyrain Lloegr |
| Senedd y DU | Wantage |
| Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • | |
Tref yn Nyffryn Tafwys, yn Swydd Rydychen, Lloegr ydy Didcot. Saif y dref tua 10 milltir i'r de o ddinas Rhydychen.
Mae Caerdydd 134.6 km i ffwrdd o Didcot ac mae Llundain yn 79.4 km. Y ddinas agosaf ydy Rhydychen sy'n 17 km i ffwrdd.
Hanes [golygu]
Mae Didcot yn dyddio o Oes yr Haearn. Codwyd bryngaer ar y grib yn y dref, efo'r wern o'i chwmpas. Ceisiodd y Rhufeinwyr sychu'r wern gan gloddio ffos trwy ardal i'r gogledd o'r dref. Yn y 1200au y mae'r tro cyntaf yr ymddangosir Didcot mewn cofnodion hanesyddol, fel Dudcott. Cadwodd y dref boblogaeth o tua 100 o bobl dros ganrifoedd, tra bod rhai bentrefi cyfagos, sydd yn fychain o'u cymharu â Didcot modern, yn fwy.
Adeiladwyd rheilffordd rhwng Llundain a Bryste trwy Didcot yn 1839, ac agorwyd yr orsaf yn 1844. Erbyn hyn, mae'r brif reilffordd sy'n rhedeg trwy Didcot yn gwasanaethu De Cymru hefyd, ac yma mae llinell arall, i Rydychen a Chanolbarth Lloegr, yn gwahanu ohono. Elwir yr orsaf yn Didcot Parkway erbyn hyn.
Roedd y dref yn swydd Berkshire, nes i ffiniau'r swyddi gael eu hail-drefnu yn 1974.
Dinasoedd
Rhydychen
Trefi
Abingdon · Banbury · Chipping Norton · Didcot · Witney
Pentrefi