Winnie Ewing

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwleidydd Albanaidd blaenllaw a chyfreithwraig yw Winifred Margaret 'Winnie' Ewing (neu Winnie Ewing; ganwyd 10 Gorffennaf 1929). Bu'n un o brif arweinwyr Plaid Genedlaethol yr Alban (neu'r 'SNP') am flynyddoedd: Aelod Seneddol dros etholaeth Hamilton 1967–70; Moray a Nairn 74–79, bu'n Aelod o Senedd Ewrop dros Ucheldir a'r Ynysoedd 1975–1999 ac yn Aelod o Senedd yr Alban 1999–2003.

Hi oedd Cenedlaetholwr cynta'r Alban i gipio sedd a'i gwneud yn Aelod Seneddol, ac ers hynny yn 1967, dychwelwyd AS gan yr SNP ym mhob etholiad.[1][2] Bu'n Llywydd ei phlaid rhwng 1987 a 2005.

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Winifred Margaret Woodburn yn Glasgow, yr Alban. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Battlefield ac Ysgol Eilradd Hŷn Queen's Park. Derbyniodd radd M.A. ym Mhrifysgol Glasgow ac yna gradd LL.B. yn y gyfraith.[3]

Gweithiodd fel cyfreithwraig am rai blynyddoedd a dyrchafwyd hi'n Ysgrifenyddes y Glasgow Bar Association rhwng 1962–67.[4] Yn 1995 anrhydeddwyd hi'n 'Ddoethur Legum' (LLD) gan Brifysgol Glasgow.

Y gwleidydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth Ewing i'r amlwg pan enillodd is-etholiad Hamilton i'r SNP ym 1967, flwyddyn wedi i Gwynfor Evans ennill is-etholiad Caerfyrddin, i Blaid Cymru. Cydnabu Winnie Ewing iddi ddod yn unig Aelod Seneddol yr SNP, yn rhannol oherwydd dylanwad buddigolaeth Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin.[5]

Wedi iddi gipio Hamilton dywedodd: "Stop the world, Scotland wants to get on" a gwelwyd cryn gynnydd yn aelodaeth yr SNP wedi hynny. Credir mai adwaith i hyn oedd i'r Blaid Lafur yn Ebrill 1969 sefydlu Comisiwm Kilbrandon i ymchwilio i'r posibilrwydd o ddatganoli'r Alban.[4]

Wedi iddi gael ei hethol i Senedd Ewrop, galwyd hi gyda'r llysenw Madame Ecosse, a 'Mam yr Alban' gan ei bod yn ceisio hyrwyddo ei gwlad ar bob achlysur.[6][7]

Yn 1999 rhoddodd y gorau i'w swydd fel Aelod o Senedd ewrop ac fe'i hetholwyd yn Aelod o Senedd yr Alban yn sesiwn cyntaf y Senedd newydd, gan gynrychioli Ucheldir a'r Ynysoedd. Hi oedd aelod hyna'r senedd, ac iddi hi y rhoddwyd y fraint o lywyddu dros Agoriad y Senedd. Fe'i cofir am ei geiriau enwog: "'The Scottish Parliament, adjourned on the 25th day of March in the year 1707, is hereby reconvened'.[8]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]