George Kerevan

Oddi ar Wicipedia
George Kerevan
George Kerevan


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – 3 Mai 2017
Rhagflaenydd Fiona O'Donnell
(Llafur)
Olynydd Martin Whitfield
(Llafur)

Geni (1949-09-28) 28 Medi 1949 (74 oed)
Glasgow, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Dwyrain Lothian
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Prifysgol Glasgow
Galwedigaeth Gwleidydd
Darlithydd mewn Economeg
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw George Kerevan (ganwyd 28 Medi 1949) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ddwyrain Lothian; mae'r etholaeth yn sir Dwyrain Lothian, yr Alban. Mae George Kerevan yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Graddiodd gradd Meistr gydag Anrhydedd ym Mhrifysgol Glasgow mewn Economeg Gwleidyddol.[1] Yna gweithiodd yng Ngholeg Napier mewn swyddi academaidd o 1992, a bu'n Prif Ddarlithydd mewn Economeg 1975-2000, gan arbenigo mewn economeg ynni. Rhwng 2000 a 2009 bu'n cydolygu The Scotsman[1] ac yna'n Brif Weithredwr cwmni teledu What If Productions (Television) Ltd.

Etholiad 2015[golygu | golygu cod]

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd George Kerevan 25104 o bleidleisiau, sef 42.5% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 26.5 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 6803 pleidlais.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Swanson, Ian (9 May 2015). "SNP brings seismic shift to Edinburgh politics". Evening News. Johnston Press. Cyrchwyd 11 May 2015.
  2. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  3. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban