Dwyrain Lothian (etholaeth seneddol y DU)

Oddi ar Wicipedia
Dwyrain Lothian
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Dwyrain Lothian yn Yr Alban.
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd1983
Aelod SeneddolKenny MacAskill SNP
Nifer yr aelodau1
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Mae Dwyrain Lothian yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Dwyrain Lothian. Rhwng 1983 a 2015 y Blaid Lafur oedd yn cynrychioli'r etholaeth.

Cyn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1983, roedd yr ardal hon yn yr etholaeth a elwid yn 'Berwick a Dwyrain Lothian'.

Cynrychiolwyd yr etholaeth yn Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan George Kerevan, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Collodd ei sedd i Martin Whitfield (Llafur) yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017. Ail-gipiwyd y sedd gan yr SNP a'i hymgeisydd Kenny MacAskill yn etholiad 2019. Ar 27 Mawrth 2021 cyhoeddodd MacAskill, ei fod wedi ymadael a'r SNP ac wedi ymuno â Phlaid Alba.[2]

Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod]

Etholiad Aelod Seneddol Plaid
1983 John Home Robertson Llafur
2001 Anne Picking Llafur
2010 Fiona O'Donnell Llafur
2015 George Kerevan SNP
2017 Martin Whitfield Llafur
2019 Kenny MacAskill SNP
27 Mawrth 2021 Alba

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015
  2. "Former Scottish justice secretary Kenny MacAskill defects to Alex Salmond's new Alba party". The Independent. 2021-03-27. Cyrchwyd 2021-03-27.