Beinn na Faoghla

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Benbecula)
Beinn na Faoghla
Mathynys Edit this on Wikidata
PrifddinasBaile a' Mhanaich Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,303 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
SirYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd82.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr124 metr Edit this on Wikidata
GerllawSea of the Hebrides Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.4458°N 7.3196°W Edit this on Wikidata
Map

Un o ynysoedd Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Beinn na Faoghla[1][2] neu Beinn nam Faoghla (Saesneg: Benbecula). Saif rhwng Uibhist a Tuath, o'r gogledd. ac Uibhist a Deas, i'r de. Mae priffordd yr A865 yn ei chysylltu a'r ynysoedd hyn.

Lleoliad Beinn na Faoghla yn yr Alban

Tir isel yw'r ynys, gyda'r copa uchaf, Ruibheal, 124 medr uwch lefel y môr. Mae tua 10 km o'r gogledd i'r de. Prif bentref yr ynys yw Baile a Mhanaich (Balivanich); mae maes awyr bychan ychydig i'r gogledd-ddwyrain ar benrhyn An Tom. Ymhlith y pentrefi eraill mae Griminis, Cnoc a Monach, Torlum, Dun Gammhich, Uachdar a Gramsdal. Mae gan Lionacleit ysgol uwchradd (sydd hefyd yn ganolfan i’r gymuned) gyda llyfrgell, pwll nofio, caffi ac amgueddfa. Mae hefyd campws Coleg Castell Lews yn Lionacleit. Mae archfarchnad yn Creagorry.

Yn 1958, sefydlwyd canolfan filwrol ar Beinn na Faoghla, sydd wedi cael rhywfaint o effaith ar boblogaeth yr ynys. Erbyn hyn mae tua 1,300 o drigolion, gyda 56% yn siaradwyr Gaeleg yng ngyfrifiad 2001.

Cynhelir Gŵyl Eilean Dorcha ar yr ynys, yn denu bron 4,000 o bobl yn 2019.[3]

Tirwedd nodweddiadol yr ynys
Loch Olabhat

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2022-05-03 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 16 Ebrill 2022
  2. British Place Names; adalwyd 16 Ebrill 2022
  3. Gwefan y Press & Journal