Beàrnaraigh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Beàrnaraidh

Un o ynysoedd llai Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Beàrnaraigh neu Bearnaraigh (Saesneg: Berneray). Saif ychydig i'r gogledd o ynys Uibhist a Tuath.

Adeiladwyd cob ar draws culfor Caolas Bheàrnaraigh, sy'n gwahanu Beàrnaraidh ac Uibhist a Tuath. Y pwynt uchaf ar yr ynys yw Beinn Shleibhe, 93 medr uwch lefel y môr. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 136.

Harbwr Beàrnaraigh.