Llandybïe

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llandybie)
Neidio i: llywio, chwilio
Llandybïe
Sir Gaerfyrddin
CymruCaerfyrddin.png
Smotyn Coch.gif

Pentref diwydiannol a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, ger Rhydaman, yw Llandybïe[1] (hefyd Llandybie; weithiau hefyd Llandebie), ac mae'n un o'r rhai mwyaf yn y sir honno.

Cynnwys

Hanes [golygu]

Eglwys Llandybïe

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd eglwys yn Llandybïe gan y Santes Dybïe (Tybïe), un o blant niferus Brychan, brenin Brycheiniog.

Sefydlwyd Llyfrau'r Dryw yn Llandybïe gan y brodyr Aneirin Talfan Davies ac Alun Talfan Davies yn 1940.

Mae'n gartref i Gôr Meibion Llandybïe.

Cymuned Llandybïe [golygu]

Mae ardal Cyngor Cymuned Llandybïe yn fawr hefyd, gydag 8,700 o drigolion - dros 6,000 ohonynt yn Gymraeg eu hiaith - ac yn cynnwys pentrefi Saron, Blaenau, Cae'r-bryn, Cwmgwili, Pen-y-banc, Capel Hendre, Pentregwenlais a Phen-y-groes.

Addysg [golygu]

Lleolir Ysgol Gynradd Llandybïe yn y pentref. Mae'n ysgol ddwyieithog.

Eisteddfod Genedlaethol [golygu]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llandybie ym 1944. Am wybodaeth bellach gweler:

Cyfeiriadau [golygu]

Dolenni allanol [golygu]