Sgalpaigh na Hearadh
Oddi ar Wicipedia
Ynys fechan gerllaw arfordir dwyreiniol Na Hearadh (Harris) yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin Yr Alban yw Sgalpaigh na Hearadh (Saesneg: Scalpay).
Cysylltir Sgalpaigh a Na Hearadh gan bont. Mae'r boblogaeth ychydig dan 400, y rhan fwyaf yn bysgotwyr. Ceir goleudy hynaf yr Alban yma, yn dyddio o 1788.