Steòrnabhagh
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas ynys Leòdhas yw Steòrnabhagh (Gaeleg yr Alban; Saesneg: Stornoway). Dyma'r unig dref weddol fawr yn Ynysoedd Allanol Heledd yn yr Alban, gyda phoblogaeth o tua 9,000 (26,370 sy'n byw yn yr ynysoedd cyfan).
Steòrnabhagh yw canolfan weinyddol yr ynysoedd lle ceir pencadlys Comhairle nan Eilean Siar (Saesneg: Western Isles Council, 'Cyngor Ynysoedd Heledd').
Daw'r enw o'r enw Norseg Stjornavagr.
Ceir cysylltiad fferi ag Ullapool ar y tir mawr. Mae maes awyr bychan ger pentref Melbost, rhyw ddwy filltir i ffwrdd.