Eirisgeidh

Oddi ar Wicipedia
Eirisgeidh
Mathynys, Cyngor Cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth143 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
SirYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd700 ha Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd, Sea of the Hebrides Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.075°N 7.29°W Edit this on Wikidata
Map

Ynys yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Èirisgeidh (Saesneg: Eriskay). Saif rhwng ynysoedd mwy De Uist a Barraigh, a chysylltir hi a De Uist gan gob a adeiladwyd yn 2001[1]. Mae siop, eglwys a Chanolfan Gomuned ar Eirisgeidh. Mae fferi Caledonian MacBrayne rhwng Ceann a' Ghàraidh ar Eirisgeidh ac Ardmore ar Barraigh.[2] Poblogaeth Èirisgeidh yn 2001 oedd 133.

Er mai ynys fechan ydyw, mae'n adnabyddus am nifer o resymau. Yma y glaniodd Charles Edward Stuart (Bonnie Prince Charlie) gyda saith o gymdeithion ar 23 Gorffennaf 1745 i ddechrau gwrthryfel y Jacobitiaid. Yn 1941, yma y bu llongddrylliad yr SS Politician gyda'i chargo o wisgi; digwyddiad a anfarwolwyd yn Whisky Galore.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Lleoliad Eirisgeidh
Y cob