Cytsain grech
Oddi ar Wicipedia
Mewn seineg, cytsain a gynhyrchir gan ddirgryniad rhwng yr ynganydd a'r man ynganu yw cytsain grech. Mae cytseiniaid crychion yn wahanol i chytseiniaid cnithiedig lle y mae'r ynganydd gweithredol yn cael ei fwrw yn erbyn yr un goddefol. Mewn gwrthgyferbyniad, er mwyn ynganu cytsain grech, mae'r ynganydd yn aros yn ei unfan a llif yr anadl sy'n gwneud iddo ddirgrynu. Fel arfer mae'r dirgrynu hwn yn parhau am ddwy neu dri thro.
Ceir y cytseiniaid crychion canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
| IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
|---|---|---|---|---|---|
| Iaith | Sillafu | IPA | Ystyr | ||
| ʙ | cytsain grech ddwywefusol leisiol | ieithoedd Bamileke | [àʙɨ́] | lludw | |
| r̪ | cytsain grech ddeintiol | iaith Ynysoedd Marshall | Ebadon | [ebɑr̪on̪] | Ebadon |
| r | cytsain grech orfannol | Cymraeg | ras | [raːs] | ras |
| cytsain grech dafodigol | Ffrangeg | Paris | [paˈʀi] | Paris | |
Gweler hefyd [golygu]
Ffynonellau [golygu]
- Ladefoged, Peter; Ian Maddieson (1996). The Sounds of the World's Languages. Rhydychen: Blackwell. ISBN 0-631-19814-8.