Cytsain gnithiedig

Oddi ar Wicipedia

Mewn seineg, cytsain a gynhyrchir gan gyfangiad cyhyrol yw cytsain gnithiedig, lle y mae'r ynganydd gweithredol yn cael ei fwrw yn erbyn yr un goddefol. Mae cytseiniaid cnithiedig yn cyferbynnu â chytseiniaid stop gan nad oes cynnydd anadl y tu ôl i'r man ynganu ac felly dim rhyddhau'r sain ffrwydrol. Fel arall, mae cytseiniaid cnithiedig yn debyg i gytsain stop sydyn. Hefyd, maent yn wahanol i gytsain grech lle y mae'r ynganydd yn aros yn ei unfan a llif yr anadl sy'n gwneud iddo ddirgrynu. Gall y dirgrynu hwn barhau am sawl tro mewn cytsain grech, ond dim ond unwaith mae'n digwydd mewn cytsain gnithiedig.

Ceir y cytseiniaid cnithiedig canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):

IPA Disgrifiad Enghraifft
Iaith Sillafu IPA Ystyr
ⱱ cytsain gnithiedig wefus-ddeintiol iaith Mono vwa [a] anfon
ɾ̪ cytsain gnithiedig ddeintiol Sbaeneg pero [peɾ̪o] ond
ɺ cytsain gnithiedig ochrol orfannol Japaneg ラーメン(rāmen) [ɺaːmeɴ] nwdls rāmen
cytsain gnithiedig olblyg Hausa shaara [ʃáːɽa] ysgubo
ɺ̢ () cytsain gnithiedig ochrol olblyg Pashto ړوند (und) [ɺ̢und] dall

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Ladefoged, Peter; Ian Maddieson (1996). The Sounds of the World's Languages. Rhydychen: Blackwell. ISBN 0-631-19814-8.