Cytsain drwynol

Oddi ar Wicipedia

Mewn seineg, cytsain stop yw cytsain drwynol lle y mae'r llwybr lleisiol yn cael ei rwystro er mwyn atal llif yr anadl, a'r daflod feddal yn cael ei gollwng gan adael i'r anadl ddianc trwy'r trwyn. Gellir rhwystro'r anadl â'r tafod neu â'r gwefusau. Mae cytseiniaid ffrwydrol yn cyferbynnu â chytseiniaid ffrwydrol lle y mae rhwystr i'r llwybr lleisiol ond nid yw'r anadl yn llifo trwy'r trwyn.

Ceir y cytseiniaid trwynol canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):

IPA Disgrifiad Enghraifft
Iaith Sillafu IPA Ystyr
m cytsain drwynol ddwywefusol Cymraeg merch [mɛrχ] merch
cytsain drwynol wefus-ddeintiol leisiol Cymraeg ymffrost1 ɱfrɔst] ymffrost
cytsain drwynol ddeintiol Cymraeg y Gogledd canu [kʰaɨ] canu
n cytsain drwynol orfannol Cymraeg y de canu [kʰani] canu
cytsain drwynol olblyg Swedeg Vänern [vɛː.neɳ] Vänern
cytsain drwynol daflodol Ffrangeg agneau [aɲo] oen
cytsain drwynol felar Cymraeg lleng [ɬɛŋ] lleng
cytsain drwynol argegol Japaneg 日本 Nihon [ni.hoɴ] Japan

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Ladefoged, Peter; Ian Maddieson (1996). The Sounds of the World's Languages. Rhydychen: Blackwell. ISBN 0-631-19814-8.