Deilen gron

Oddi ar Wicipedia
Umbilicus rupestris
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau craidd
Urdd: Saxifragales
Teulu: Crassulaceae
Genws: Umbilicus (genws)
Rhywogaeth: U. rupestris
Enw deuenwol
Umbilicus rupestris
Richard Anthony Salisbury
Cyfystyron

'Umbilicus gaditanus
Umbilicus neglectus
Cotyledon rupestris Richard Anthony Salisbury

Planhigyn blodeuol a deugotyledon suddlon yw'r ddeilen gron (enw benywaidd). Mae'n perthyn i'r teulu Crassulaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Umbilicus rupestris a'r enw Saesneg yw Navelwort.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Deilen Gron, Bara Ceiniogen, Bogail Gwener, Bogail y Bugail, Bogail y Forwyn, Bogeil-lys, Bogel Gwener, Bogel y Forwyn, Ceiniogllys y Fagwyr, Crondoddaidd, Dail Ceiniog, Llysiau Ceiniog, Llysiau y Fogel.

Esblygodd y planhigyn hwn tua 100-60 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn nwyrain Affrica a thiroedd Môr y Canoldir.

Meddyginiaethau a Llên Gwerin[golygu | golygu cod]

  • "Roedd nain yn tyfu'r planhigyn i gael gwared o gyrn ar fodia'i thraed." Roedd yn enedigol o’r Fanod a bu’n rhaid iddi ddod a dŵr o Ffynnon Doctor i'w dyfrio. "Mae'r planhigion yn dal i dyfu'n ein gardd fach".[2]
  • "Pan oeddwn i ́n blentyn byddai fy mam yn torri ́r ddeilen gron yn fach a ́i rhoi mewn ́gauze ́ i'w rhoi ar ben ddyn [pen düyn] neu fyddigiad. Mi fyddai ́n saff o fod wedi torri mewn rhyw awr."[3]
  • "Cofio defnyddio blodau hwn i wneud "pwdin reis" wrth chwarae ty bach".[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: