Dant y llew
| Dant y llew | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
| Urdd: | Asterales |
| Teulu: | Asteraceae |
| Genws: | Taraxacum Cass. |
| Rhywogaethau | |
|
Llawer |
|
Llysieuyn ydy dant y llew (enw arall ydy blodyn pi-pi gwely) (Ffrangeg: Pissenlit neu Dent-de-lion; Lladin: Taraxacum; Saesneg: Dandelion) sydd fel arfer yn tyfu'n wyllt. Mewn gardd, caiff ei ystyried yn chwynyn, er bod rhai'n ei dyfu oherwydd ei rinweddau meddygol. Mae ganddo ddail sydd rhwng 5 a 25 cm o hyd. Dywed rhai botanegwyr fod tua 200 gwahanol fath, ond y gred bellach ydy mai tua 60 math gwahanol sydd.[1]
Rhinweddau meddygol [golygu]
Credir fod dant y llew yn cynnwys: potasiwm, calsiwm, clorin (halwynau gwrthsurol), Fitamin C a Fitamin B1. Mae'r dail yn wych ar gyfer diffyg traul, at yr arenau ac at glirio'r gwaed. Mae rhinwedd arall hefyd: fel carthydd (laxative). Gellir bwyta'r dail ffres ar frechdan. O dorri'r coesyn bregus fe gewch sudd gwyn; gellir defnyddio hwn ar gyfer gwella defaid ar y croen. Gellir defnyddio'r gwreiddiau hefyd, o'u golchi, eu sychu a'u crasu'n dda ac yna eu gratio'n fân i wneud coffi di-gaffîn.[2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ http://www.jstor.org/pss/2430530
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.