Asid ascorbig
Mae'r fitamin hwn, sef fitamin C (neu 'ascorbate') yn gwbwl angenrheidiol i gorff iach. Mae'r rhan fwyaf o organebau byw (anifeiliaid a phlanhigion) yn medru ei greu o fewn y corff eu hunain, ond mae dyn yn eithriad prin! Hwn ydy'r prif fitamin sy'n atal 'sgyrfi'.
Mewn organebau byw mae'n gweithredu fel gwrthocsidant. Mae cryn ddadlau faint o fitamin C sydd ei angen ar y corff. Mae'r bobl hynny sy'n ei gael o ffynonellau naturiol megis ffrwythau a llysiau yn iachach ac yn byw'n hirach. Mae canlyniad ymchwil i werth 'supplements' o fitamin C ar 232,606 o bobol wedi profi nad oes gwrth iddynt..[1]
Cynnwys |
Ffynhonnell fitamin C[golygu]
Planhigion[golygu]
Cymerwch 100 gram o'r llysiau a'r ffrwythau canlynol, ac fe welwch yn y tabl faint o fitamin C sy'n bresenol ynddynt.
Cig anifeiliaid[golygu]
Gallwn gael ein fitamin C hefyd o gig, yn enwedig iau. Does na fawr ohono mewn cyhyr fodd bynnag. Cymerwch 100 gram o'r cigoedd canlynol, ac fe welwch yn y tabl faint o fitamin C sy'n bresenol ynddynt:
| Ffynhonnell | Faint / swm (mg / 100g) |
|---|---|
| Iau llo bach (amrwd) | 36 |
| Iau eidion (amrwd) | 31 |
| Wystrys (amrwd) | 30 |
| Wyau Penfras ('roe') (wedi'u ffrio) | 26 |
| Iau Porc (amrwd) | 23 |
| Ymennydd cig oen (wedi'i ferwi) | 17 |
| Iau cyw iâr (wedi'i ffrio) | 13 |
| Ffynonell | Faint / swm (mg / 100g) |
|---|---|
| Iau cig oen (wedi'i ffrio) | 12 |
| Calon oen (wedi'i rostio) | 11 |
| Tafod oen (wedi'i ferwi) | 6 |
| Llaeth dynol (ffresh) | 4 |
| Llaeth gafr (ffresh) | 2 |
| Llaeth buwch (ffresh) | 2 |
Darganfod fitamin C[golygu]
Roedd tîm o Hwngari rhwng 1928 ac 1933 wrthi fel lladd nadroedd yn ceisio profi bodolaeth asid ascorbic, dan arweiniad Joseph L Svirbely ac Albert Szent-Györgyi. Yn 1937 derbyniodd y ddau wobr Nobel mewn meddygaeth am eu gwaith.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Mortality in randomized trials of antioxidant supplements for primary and secondary prevention: systematic review and meta-analysis; cyhoeddwyd gn y BMA; awdur: Bjelakovic G; dyddiad: 2007
| Ffynhonnell | Faint / Swm (mg / 100g) |
|---|---|
| Plwm Kakadu | 3100 |
| Camu Camu | 2800 |
| Bochgoch | 2000 |
| Acerola | 1600 |
| Seabuckthorn | 695 |
| Jujube | 500 |
| Indian gooseberry | 445 |
| Baobab | 400 |
| Cwraints duon | 200 |
| Pupur Coch | 190 |
| Persli | 130 |
| Gwafa | 100 |
| Ffrwyth Ciwi | 90 |
| Brocoli | 90 |
| Loganberry | 80 |
| Cwraints cochion | 80 |
| Ysgawell | 80 |
| Wolfberry (Goji) | 73 † |
| Lychee | 70 |
| Cloudberry | 60 |
| Ysgawen | 60 |
| Persimmon | 60 |
| Papaya | 60 |
| Mefus | 60 |
| Orenau | 50 |
| Lemon | 40 |
| Melon, cantaloupe | 40 |
| Blodfresych | 40 |
| Garlleg | 31 |