Rhosyn
| Rhosod | |
|---|---|
| Hen fath o rosyn: Rosa bracteata | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
| Urdd: | Rosales |
| Teulu: | Rosaceae |
| Is-deulu: | Rosoideae |
| Genws: | Rosa L. |
| Rhywogaethau | |
|
mwy na 100 |
|
Planhigyn blodeuol yw'r Rhosyn (Lladin: Rosa, teulu'r Rosaceae) sy'n cael ei dyfu oherwydd ei harddwch a'i arogl ac sy'n tarddu'n wreiddiol o Bersia, ac felly hefyd tarddiad yr enw Saesneg 'Rose' via 'rhodon' (Groeg) sef 'coch'. Credir bod dros 10,000 gwahanol o fath o rosod ar gael.[1]
Mae'r dywediad Lladin "dan y rhosyn" yn golygu Sub Rosa ac fe’i defnyddir i olygu cyfrinachedd.
Cynnwys |
Y rhosyn mewn llenyddiaeth [golygu]
Ceir llawer iawn o gyfeiriadau at y rhosyn mewn llenyddiaeth Gymraeg a llawer o ieithoedd eraill gan gynnwys hen benillion a chaneuon traddodiadol megis:
- "Dau rosyn coch a dau lygad du
- Yn y baw a'r llaca o Syr!" mynte hi.
Rhinweddau meddygol [golygu]
Defnyddir y Rosa gallica fel te iachusol a chaiff ei dyfu yn Swydd Rhydychen a Derbyshire i'r perwyl hwn, a thrwy'r byd. Mae blodau'r math hwn yn borffor tywyll ac yn felfedaidd. Yn wir, gellir defnyddio unryw fath o rosyn sydd â phetalau coch neu borffor i wella peswch, dolur gwddw a gwaedlif. Gellir eu defnyddio hefyd y tu allan i'r corff, mewn bwltis.[1]