Pig yr Aran
| Pig yr Aran | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
| Urdd: | Geraniales |
| Teulu: | Geraniaceae |
| Genws: | Geranium |
| Rhywogaeth: | G. molle |
| Enw deuenwol | |
| Geranium molle L. |
|
Blodyn cyffredin sy'n tyfu mewn tir diffaith, cloddiau a thir wedi ei drin ydyw Pig yr Aran, Troed y Golomen neu Garanbig Maswaidd; (Lladin: Geranium molle; Saesneg: Dovesfoot neu Crane's-bill). Un bychan ydyw rhwng 10 a 15 cm ac mae'n blodeuo rhwng Ebrill a Medi.
Mae'n wreiddiol o ganol a gorllewin Ewrop ond bellach fe'i gwelir yn tyfu yng ngogledd America. Caiff ei ystyried fel chwynyn gan y rhan fwyaf o bobl a defnyddir "Glyphosate" i'w reoli.
Cynnwys |
Rhinweddau meddygol[golygu]
Caiff ei ystyried yn dda ar gyfer gwynt yn y bol ac i hel cerrig allan o'r arennau. O wasgu'r planhigyn yn y dwylo a'i roi ar y croen gellir trin gowt a chymalau poenus.[1] Ceir tystiolaeth hefyd y gall wella: clwy'r marchogion, craciau ar y croen, cylchrediad y gwaed, gwynegon y cluniau, dolur gwddw, problemau mislif, llau pen a llid y bledren.[2]
Mathau[golygu]
- Pig yr Aran Rhuddgoch (Geranium sanguineum)
- Pig yr Aran Llarpiog (Geranium dissectum)
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ The English physitian: or an astrologo-physical discourse of the vulgar herbs of this nation. London : Peter Cole, 1652
- ↑ Gwefan Saesneg