Cotwm

Oddi ar Wicipedia
Cotwm
Mathffibr planhigyn Edit this on Wikidata
CynnyrchGossypium barbadense, Gossypium hirsutum Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Deunydd amddiffynnol sy'n tyfu o gwmpas hadau y planhigyn cotwm (Gossypium) yw Cotwm. Fe'i defnyddir i wneud edafedd a brethyn. Daw'r gair "cotwm" o'r Arabeg (al) qutn قُطْن. Hadlestr ydyw, a gwnaed ei ffibrau allan o Seliwlos yn bennaf. Mae Diwrnod Cotwm y Byd yn cael ei ddathlu ar 7 Hydref; cychwynnwyd y diwrnod hwn yn 2019.[1]

Cotwm yw’r ffibr naturiol mwyaf cyffredin a ddefnyddir i wneud ffabrig ar draws y byd. Cynhyrchwyr cotwm mwyaf y byd yn 2007 oedd (1) Tsieina, (2) India, (3) yr Unol Daleithiau, (4) Pacistan, (5) Brasil, (6) Wsbecistan, (7) Twrci, (8) Gwlad Groeg, (9) Tyrcmenistan, a (10) Syria. Yr allforwyr cotwm mwyaf oedd (1) yr Unol Daleithiau, (2) Wsbecistan, (3) India, (4) Brasil, a (5) Bwrcina Ffaso. Mae'r amrywiaeth fwyaf o rywogaethau cotwm gwyllt i'w cael ym Mecsico, ac yna Awstralia ac Affrica.[2]

Cotwm yn barod i'w gynaeafu

Cynhyrchir y rhan fwyaf o gotwm India yn Maharashtra (26.63 %), Gujarat (17.96 %) ac Andhra Pradesh (13.75 %). Texas sy'n cynhyrchu'r gyfrahn uchaf o gotwm yr Unol Daleithiau.

Mae'r amcangyfrifon cyfredol ar gyfer cynhyrch global tua 25 miliwn tunnell neu 110 miliwn o fyrnau bob blwyddyn, sef 2.5% o dir âr y byd. India yw cynhyrchydd cotwm mwya'r byd, ond yr Unol Daleithiau fu'r allforiwr mwyaf am flynyddoedd.[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r ffibr fel arfer yn cael ei nyddu'n edafedd neu edau a'i ddefnyddio i wneud tecstilau meddal, anadladwy, amsugnol, cryf a golchadwy. Gwyddys bod y defnydd o gotwm ar gyfer ffabrig yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol; darganfuwyd darnau o ffabrig cotwm o'r bumed mileniwm CC yng Ngwareiddiad Dyffryn Indus, yn ogystal â gweddillion ffabrig sy'n dyddio'n ôl i 6000 CC ym Mheriw.

Tarddiad y gair[golygu | golygu cod]

Aeth y gair i mewn i'r ieithoedd Romáwns yng nghanol y 12g, a'r Saesneg ganrif yn ddiweddarach. Ychydyg wedyn, yn y 15g, llithrodd i fewn i'r Gymraeg; ceir y defnydd cyntaf o'r gair gan Guto'r Glyn: Guto gwnaed ffaling gotwm.[4]

Mathau o ffabrig cotwm[golygu | golygu cod]

Mae llawer o ffabrigau'n cael eu gwneud yn gyfan gwbl o gotwm ond mae ffabrigau eraill yn cael eu gwneud o gymysgedd o gotwm a ffibrau megis polyester.

  • Cambrig: dyma un o’r mathau mwyaf trwchus o liain, a ddefnyddiwyd yn hanesyddol i wneud crysau gwaith, gobenyddion a chlustogau.
  • Denim: ffabrig cotwm cryf sy’n cael ei wehyddu gydag effaith rib groeslinol. Fe’i defnyddir ar gyfer jîns, siacedi ac ati.
  • Melfaréd: un o'i nodweddion amlycaf yw'r cordiau paralel. Fe’i defnyddir ar gyfer trowsus, siacedi, ac ati.
  • Gwlanen: ffabrig gwead plaen gyda cheden ar un neu ddwy ochr. Fe’i defnyddir ar gyfer trowsus fel arfer.
  • Mwslin: ffabrig plaen tryloyw wedi’i wehyddu a ddefnyddir i addurno ffenestri a dillad menywod, ee sgarffiau.
  • Ffabrig Eifftaidd: cotwm meddal ac amsugnol o ansawdd da iawn, a ddefnyddir ar gyfer tywelion a dillad gwely.
  • Fflaneléd: ffabrig meddal a ddefnyddir hefyd ar gyfer dillad nos a dillad gwely.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]