Llygad y dydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llygad y dydd
Bellis perennis white (aka).jpg
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Magnoliophyta
Dosbarth: Magnoliopsida
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Genws: Bellis
Rhywogaeth: B. perennis
Enw deuenwol
Bellis perennis
L.

Planhigyn blodeuol yw Llygad y dydd (Lladin: Bellis perennis; Saesneg: Daisy). Mae'r gair Saesneg daisy yn tarddu o'r geiriau "day's eye" yn union fel 'llygad y dydd'. Ceir sawl rhywogaeth o lygad y dydd ond mae'r enw yn cyfeirio at Bellis perennis gan amlaf yma yng Nghymru.

[golygu] Rhinweddau meddygol

Arferid gwneud eli allan o'r blodau: tua llond dwrn go dda wedi'u malu'n gyrbibion a'u gwasgu mewn talp o fenyn. Defyddid yr eli ar y croen i wella cricmala (gwynegon) neu cymalau poenus. Mae cnoi'r dail hefyd yn beth da i wella wlser. [1]

Yn ôl rhai ysgolheigion, mae'r rhinweddau canlynol ynddo: gwrthffwng (antifungal), glanhau'r gwaed, lleddfu poen. Gall hefyd wella peswch, poenau yn y stumog, gwynegon (cricmala) a phroblemau'n ymwneud â beichiogrwydd.[2]

Mae llygad y dydd yn cynnwys: saponinau, tannin, olew hanfodol, fflafonau a gludiau (mucilage).[3]

[golygu] Cyfeiriadau

[golygu] Gweler hefyd:

Dahlia redoute.JPG Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill