Planhigion blodeuol â dwy had-ddeilen yw'r deugotyledonau (hefyd dicotyledonau neu dicotau). Maent yn cynnwys tua 200,000 o rywogaethau.[1] Fe'u dosberthir yn y dosbarth Magnoliopsida (neu Dicotyledones) yn draddodiadol, ond mae astudiaethau o'u DNA a'u paill yn dangos bod nhw'n ffurfio sawl grŵp gwahanol; yr ewdicotau yw'r grŵp mwyaf ac maent yn cynnwys y rhan fwyaf o'r deugotyledonau.
Mae dosbarthiad y deugotyledonau yn amrywio. Mae'r rhestr isod yn dilyn yr Angiosperm Phylogeny Group.[2] Mae dosbarthiad cywir nifer o deuluoedd yn ansicr.
| Urdd |
Enghreifftiau |
| Amborellales |
| Nymphaeales |
lili'r dŵr |
| Austrobaileyales |
coeden anis |
| Chloranthales |
| "Magnoliidau" |
| Canellales |
| Laurales |
llawryfen |
| Magnoliales |
magnolia, nytmeg, afal cwstard |
| Piperales |
pupur du, esgorlys |
| Ceratophyllales |
cyrnddail |
| "Ewdicotau" |
| Ranunculales |
blodyn ymenyn, pabi |
| Teulu Sabiaceae |
| Proteales |
protea, planwydden, lotws |
| Trochodendrales |
| Buxales |
pren bocs |
| "Ewdicotau craidd" |
| Gunnerales |
| Teulu Dilleniaceae |
| Saxifragales |
tormaen, eirinen Fair, briweg, rhosyn y mynydd |
| Berberidopidsales |
| Santalales |
uchelwydd |
| Caryophyllales |
carnasiwn, cactws, ffigysen yr Hotentot |
| "Rosidau" |
| Vitales |
gwinwydden |
| "Ewrosidau I" |
| Zygophyllales |
| Celastrales |
brial y gors |
| Oxalidales |
suran y coed |
| Malpighiales |
llaethlys, eurinllys, llin, mangrof, helygen, fioled |
| Cucurbitales |
cucumer, melon, pwmpen |
| Fabales |
ffeuen, pysen, meillionen, pysgneuen |
| Fagales |
ffawydden, derwen, bedwen |
| Rosales |
rhosyn, afal, llwyfen, danhadlen, cywarch |
| "Ewrosidau II" |
| Geraniales |
pig yr Aran, mynawyd y bugail |
| Myrtales |
myrtwydden, llysiau'r milwr, melyn yr hwyr, grawnafal |
| Crossosomatales |
| Picramniales |
| Huerteales |
| Brassicales |
bresychen, mwstard, rêp |
| Malvales |
hocysen, pisgwydden, cotwm, cor-rosyn |
| Sapindales |
oren, lemon, mahogani |
| "Asteridau" |
| Cornales |
cwyrosyn |
| Ericales |
grug, rhododendron, ffrwyth ciwi, te, briallen |
| "Ewasteridau I" |
| Teulu Boraginaceae |
cyfardwf, sgorpionllys |
| Teulu Vahliaceae |
| Teulu Icacinaceae |
| Teulu Metteniusaceae |
| Teulu Oncothecaceae |
| Garryales |
| Gentianales |
crwynllys, coffi |
| Lamiales |
mintys, marddanhadlen, lafant, bysedd y cŵn, olewydden |
| Solanales |
codwarth, tomato, taten, planhigyn ŵy, taglys |
| "Ewasteridau II" |
| Aquifoliales |
celynnen |
| Asterales |
blodyn Mihangel, llygad y dydd, letysen, dant y llew |
| Escalloniales |
esgalonia |
| Bruniales |
| Paracryphiales |
| Dipsacales |
cribau'r pannwr, gwyddfid |
| Apiales |
moronen, persli |
Cyfeiriadau [golygu]
| Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Magnoliidau, Ewdicotau, Rosidau, Asteridau, Ewrosidau, Ewasteridau o'r Saesneg "Magnoliids, Eudicots, Rosids, Asterids, Eurosids, Euasterids". Gallwch helpu trwy safoni'r termau. |