William Penn
Oddi ar Wicipedia
| William Penn | |
|---|---|
Portread o William Penn |
|
| Ganwyd | 4 Hydref, 1644 Llundain, Lloegr |
| Bu farw | 30 Gorffennaf, 1718 Berkshire, Lloegr |
| Llofnod | |
Roedd William Penn (14 Hydref, 1644 - 30 Gorffennaf, 1718) yn sylfaenydd trefedigaeth Pennsylvania; roedd yn entrepreneur, yn athronydd ac yn berchen ar lawer iawn o diroedd yn Lloegr. Roedd ganddo feddwl tra gwahanol i'w oes: parchodd y brodorion (yn enwedig yr Indiaid Lenape) ac roedd yn credu'n gryf mewn democratiaeth a rhyddid crefyddol. Roedd hefyd yn Grynwr ac yn heddychwr ac yn ddyn uchel iawn ei barch.
Bywyd [golygu]
Ganwyd Penn ym 1644 yn Tower Hill, Llundain, yn fab i Admiral Syr William Penn a'i wraig Margaret Jasper a oedd yn ferch masnachwr o Rotterdam. Addysgwyd ef yn Ysgol Chigwell gan diwtoriaid preifat yn Iwerddon ac yna yn Eglwys Crist, Rhydychen.[1]
Dolenni Allanol [golygu]
- (Saesneg) Primitive Christianity Revived gan William Penn (1696).
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "William Penn", Encyclopedia of World Biography, 2il ed. 17 Vols. Gale Research, 1998. Atgynhyrchwyd o Biography Resource Center. Farmington Hills, Mich.: Thomson Gale. 2007