Aranjuez

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Aranjuez

Tref yng nghymuned ymreolaethol Madrid yn Sbaen yw Aranjuez. Saif lle mae Afon Tagus ac Afon Jarama yn cyfarfod, 47 cilometr i'r de o Madrid a 494 metr uwch lefel y môr . Roedd y boblogaeth ym mis Mai 2007 yn 52,573.

Mae'n enwog am y Palas Brenhinol, y Palacio Real, ac am ei erddi. Ysbrydolodd y cyfansoddwr Joaquín Rodrigo i gyfansoddi ei Concierto de Aranjuez.

Enwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Rhan o'r Palacio Real