El Aaiún

Oddi ar Wicipedia
El Aaiún
Mathdinas fawr, endid tiriogaethol gweinyddol, urban commune of Morocco, prifddinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth217,732 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1938 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMoulay Hamdi Ould Errachid Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00, UTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Caracas, Málaga, Almería, Avilés, Montevideo, Lorca, Sorrento, Sesto Fiorentino Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Laâyoune Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Arwynebedd8.1081 mi² Edit this on Wikidata
Uwch y môr72 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau27.15°N 13.2°W Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMoulay Hamdi Ould Errachid Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn nhiriogaeth Gorllewin Sahara a chyn-wladfa Sbaenaidd yw El-Aaiún (troslythrennir hefyd fel "Laâyoune" neu "El Ayun")(Arabeg: العيون, al-`ayūn, sef "Y Ddinas"). Mae'n gorwedd ger arfordir gogledd-orllewin Affrica ar lan Cefnfor Iwerydd, gyferbyn â'r Ynysoedd Dedwydd. Mae ym meddiant Moroco ers 1976, ac yn brifddinas rhanbarth Laâyoune-Boujdour-Sakia El Hamra yn y wlad honno. Hawlir meddiant ar y ddinas gan Weriniaeth Ddemocrataidd Arabaidd Sahrawi hefyd, fel ei phrifddinas de jure.

Mae ganddi boblogaeth o 188,084, yn gymysgedd o Forocwyr o'r gogledd a Sahrawiaid o dde Moroco a brodorion Gorllewin Sahara. Mae'r boblogaeth wedi cynyddu yn sylweddol dros y degawdau diwethaf, diolch i fenwfudo o Foroco. Cafwyd peth gwrthdaro ar y strydoedd yn 2005 fel rhan o intifada Gorllewin Sahara.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]