Las Palmas de Gran Canaria

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Parque San Telmo, Las Palmas

Las Palmas de Gran Canaria, a adwaenir yn aml fel Las Palmas yw dinas fwyaf yr Ynysoedd Dedwydd a'r nawfed dinas yn Sbaen o ran poblogaeth. Saif yng ngogledd-ddwyrain ynys Gran Canaria. Hi yw prifddinas yr ynys a phrifddinas talaith Las Palmas, yn ogystal a bod yn brifddinas Cymuned Ymreolaethol yr Ynysoedd Dedwydd ar y cyd gyda Santa Cruz de Tenerife. Roedd y boblogaeth yn 377,203 yn 2007.

Dyddia sefydliad y ddinas i 1478, pan ddechreuodd Juan Rejón ar goncwest Gran Canaria i Goron Sbaen. Galwodd Christopher Columbus yna yn Awst 1492 i drwsio ei longau, ar ei ffordd i ddarganfod y Byd Newydd.