Distyllu ffracsiynol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Caiff hydrocarbonnau ei buro mewn colofn distyllu ffracsiynol

Gwahaniad cymysgedd mewn i'w cydrannau gwreiddiol yw Distyllu ffracsiynol. Mae hyn yn cael ei gyflawnu wrth gynhesu cyfansoddion cemegol gan ei berwbwyntiau ac yna ei gwahanu i mewn i ffracsiynnau gwahanol i anweddu. Mae hyn yn fath arbennig o ddistyllu. Yn syml mae'r cydrannau gwreiddiol yn berwi yn llai na 25 °C o'i gilydd ac odan gwasgedd o 1 atmosffer (atm). Os mae'r gwahaniaeth yn y berwbwyntiau yn fwy na 25 °C yna mae yna fath syml o distyllu yn cael ei defnyddio.

Puro olew crai[golygu]

Mae olew crai yn gymysgedd cymleth o foleciwlau hydrocarbonnau a ffurfiwyd dros filiynnau o flynyddoedd. Does dim ffosiliau o fewn olew crai ond mae tystiolaeth yn dangos taw gweddillion creaduriaid a planhigion a ffurfiwyd y hydrocarbonnau yma. Ffurfiwyd rhain o'r weddillion yn y môr mewn ardaloedd a oedd yn rhydd o ocsigen, roedd bacteria yn bwydo ar y gweddillion hyn ac yn tynnu unrhyw ocsigen a oedd o fewn y weddillion. Erbyn hyn mae olew yn cael eu buro yn eang ac mae'n brif fynhonell ar gyfer tanwyddau. Bydd cyfansoddion olew crai yn amrywio o un maes olew i'r llall, gydag ambell olew crai yn cynnwys meintiau sylweddol o gyfansoddion sylffwr a nitrogen yn ogystal ag olion amryw o fetelau. Distyllu ffracsiynol yw'r cam cyntaf wrth buro i gynhyrchu tanwyddau ac ireidiau ynghyd â defnyddiau crai ar gyfer y diwydiant petrocemegol.

Distyllu ffracsiynnol olew[golygu]

Proses ddi-dor ar raddfa eang yw distyllu ffracsiynol olew. Mae'n rhannu olew crai yn ffracsiynau. Bydd ffwrnais yn gwresogi'r olew a hwnnw'n llifo wedyn i golofn ffracsiynnu. Yn y golofn hon mae tua 40 'hambwrdd' gyda thyllau bychain drostynt i gyd. Bydd anwedd cyddwysedig yn llifo dros pob hambwrdd ac yna i'r hambwrdd islaw. Mae'r golofn boethach ar y gwaelod ac yna oerach ar y top ac felly mae'r cadwynau mawr megis octan a decan yn ffracsiynnu ar waelod y colofn a'r cadwynau llai megis methan ac ethan yn ffracsiynnu ar dop y colofn.

Gweler Hefyd[golygu]